A yw’r ateb ar stepen ein drws?: Adeiladau gwag a’r argyfwng tai

Cyhoeddwyd 26/04/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/04/2019

A fyddai defnyddio adeiladau gwag, sydd wedi bod yn segur am gyfnodau hir, yn ffordd effeithiol o ateb y galw am ragor o dai fforddiadwy a chynaliadwy yng Nghymru?

Yn ôl amcangyfrif diweddar, mae tua 27,000 o enghreifftiau o eiddo preifat sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir, a 1,400 o eiddo gwag sydd gan y sector tai cymdeithasol.

Mewn ymgynghoriad sy’n cael ei agor heddiw, mae Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu canfod a oes mwy y gellir ei wneud i adfywio adeiladau gweigion er budd y gymuned leol. Mae arolwg ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol yn caniatáu i'r cyhoedd gyfrannu at yr ymgynghoriad.

Meddai John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau:

“Mae’r prinder tai fforddiadwy yn fater brys i lawer o gymunedau erbyn hyn. Yn y cyfamser, mae miloedd o adeiladau preifat a chyhoeddus yn wag, a chyflwr nifer ohonyn nhw’n dirywio’n ddifrifol.
“Rydym ni am ddarganfod gwir effaith adeiladau gwag ar y cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru, ac am ddeall y problemau eraill y maen nhw’n gallu eu hachosi i gymunedau. Rydym eisiau dysgu mwy am yr heriau sy’n rhwystro awdurdodau lleol rhag delio â'r broblem, a gofyn a yw’r pwerau deddfwriaethol yn ddigon fel maen nhw ar hyn o bryd.
“Rydym hefyd am glywed am enghreifftiau llwyddiannus lle mae adeiladau gwag wedi cael eu troi’n gartrefi fforddiadwy a chynaliadwy i bobl leol, i weld a oes modd efelychu’r llwyddiannau hynny mewn ardaloedd eraill.”

Yn ogystal â chyfrannu at y broblem o ddiffyg tai, mae adeiladau segur hefyd yn gallu amharu ar y cymdogion. Mae adeiladau gwag yn aml yn cael eu targedu gan fandaliaid ac os yw’r adeilad mewn cyflwr gwael, fe all beri problemau, fel lleithder, i’r tŷ drws nesaf hefyd. Os oes golwg flêr ar yr adeilad, mae hynny’n gallu dylanwadu ar brisiau tai cyfagos, sy’n cyfrannu at ddirywiad cyffredinol yr ardal.

Ond, mae 'na resymau amrywiol a chymhleth dros pam mae adeiladau yn wag am gyfnodau hir. Weithiau, nid oes gan y perchennog yr amser, yr arian na rheswm digon cryf dros fynd ati i adnewyddu'r adeilad. Mae adeiladau weithiau yn cael eu hetifeddu, a'r perchnogion newydd yn byw yn bell i ffwrdd. Os yw'r adeilad yn cael ei ddefnyddio fel siop neu swyddfa, weithiau mae'r perchennog yn dewis peidio â gwerthu neu rentu'r fflatiau uwchben, neu, ar adegau, mae'n anodd darganfod pwy yw'r perchnogion yn y man cyntaf.

Mae'r pwyllgor am ddysgu mwy am yr heriau hyn, ac mi fyddan nhw'n gwahodd pobl leol i gyflwyno tystiolaeth ar ran eu cymunedau, yn ogystal â chlywed am brofiadau elusennau a sefydliadau tai, er mwyn deall y problemau a rhannu syniadau ar gyfer eu datrys.

 

Mi fydd arolwg er mwyn cyfrannu at yr ymgynghoriad ar gael ar y ddolen yma ar ddydd Gwener 26 Ebrill: http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgConsultationDisplay.aspx?ID=355