Academi newydd yn hyfforddi arweinwyr ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol

Cyhoeddwyd 11/12/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/12/2019

- Cyhoeddi'r Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau'r Dyfodol, gyda chefnogaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae cynllun hyfforddiant newydd, a'r criw cyntaf o brentisiaid, wedi ei gyhoeddi gyda'r nod o ddatblygu sgiliau arweinwyr y dyfodol.

Mae Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau'r Dyfodol yn fenter beilot 10 mis newydd a fydd yn paratoi prentisiaid ifanc yng Nghymru i fedru arwain a mynd i'r afael â heriau'r dyfodol yn ôl egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Ymhlith y grŵp cyntaf o brentisiaid, a gyhoeddwyd heddiw gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, mae Hayley Rees sy'n Swyddog Hyfforddi yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd Hayley yn ymuno ag 20 prentis arall o nifer eang o sefydliadau ledled Cymru a fydd yn elwa ar raglen brysur o seminarau, gweithdai a chynllun mentoriaeth yr Academi.

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

"Rwy'n dymuno pob lwc i brentisiaid cyntaf Academi Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol wrth iddynt gychwyn ar raglen amhrisiadwy o seminarau a phrofiadau. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn falch o gefnogi'r fenter hon, fel rhan o'n cefnogaeth i ddatblygu sgiliau yng Nghymru a'n hymrwymiad i ddatblygu sgiliau staff er mwyn gallu parhau i gefnogi Senedd sy'n barod ar gyfer y dyfodol. Trwy ddilyn egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, mi fydd yr arweinwyr ifanc yn barod i fynd i'r afael â'r heriau sydd o'n blaenau, ac yn gallu ysbrydoli cydweithwyr ac eraill o'u cwmpas yn yr un modd."

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymhlith yr 14 o sefydliadau sy'n cefnogi'r cynllun ynghyd ag Arup; Tywysogaeth; Trafnidiaeth i Gymru; Iechyd Cyhoeddus Cymru; Cynulliad Cenedlaethol Cymru; Canolfan Mileniwm Cymru; Prifysgol De Cymru; Adnoddau Naturiol Cymru; Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru; BBC Cymru; Sgowtiaid Cymru; Costain; Dur Celsa; Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dywedodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru:

"Mae'r rhaglen beilot newydd hon yn cynnig cyfle i arweinyddion ifanc talentog ein dyfodol i fod yn rhan o adeiladu mudiad dros newid, i greu Cymru sy'n dod â gweledigaeth ac uchelgais y Ddeddf yn fyw.

"Mae meddwl yn yr hirdymor a chreu polisïau sy'n mynd i'r afael ag anghenion cenedlaethau'r dyfodol yn greiddiol i ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth o fewn ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Ledled y byd, rydyn ni'n gweld pobl ifanc yn mobileiddio a gweithredu ar faterion megis y newid yn yr hinsawdd ac mae'n bwysig bod gan ein pobl ifanc sedd wrth y bwrdd fel y gallant ddal ein harweinyddion presennol i gyfrif.

"Rwy'n awyddus i'r Academi hon roi ffocws a chyfle i arweinyddion y presennol a'r dyfodol i gydweithio a datblygu polisïau sy'n deg a chynaliadwy. Mae hon yn rhan gyffrous ac angenrheidiol o fy rôl i sbarduno'r newid diwylliannol gofynnol fel y gall ein gwasanaethau cyhoeddus, mewn gwirionedd, gynorthwyo ac arwain Cymru well."

Mae'r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn ei wneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, i weithio'n well gyda phobl, cymunedau a'i gilydd, ac i atal problemau parhaus megis tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd.

I gael mwy o wybodaeth am yr Academi, gweler datganiad i'r wasg Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol i Gymru: https://futuregenerations.wales/cy/news/cyhoeddi-enwau-cynrychiolwyr-cyntaf-yr-academi-arweinyddiaeth-cenedlaethaur-dyfodol/

Diwedd