Addasiadau i gartrefi yng Nghymru - datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Cyhoeddwyd 22/02/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/02/2018

Mewn ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar addasiadau i gartrefi yng Nghymru, mae Nick Ramsay AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol, wedi rhyddhau'r datganiad a ganlyn.

Yn ôl Mr Ramsay:

"Mae addasiadau i gartrefi yn bwysig wrth helpu pobl hŷn a phobl anabl i gadw eu hannibyniaeth, ond mae adroddiad heddiw yn dangos, oherwydd cymhlethdod y system gyflenwi gyfredol, bod pobl yn cael safonau gwasanaeth gwahanol iawn oherwydd lle maent yn byw, ac nid yr hyn sydd ei angen arnynt.

"Mae canfyddiadau'r adroddiad yn amlygu ystod o wendidau ac yn tynnu sylw at y ffaith bod angen i Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a'u partneriaid wella sut y maent yn darparu gwasanaethau i rai o'r bobl sydd fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.

"Mae'n hanfodol bod camau'n cael eu cymryd nawr i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n ddoeth a bod pobl sy'n agored i niwed yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.

"Bydd yr argymhellion yn yr adroddiad heddiw yn helpu Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus i fynd i'r afael â'r gwendidau hirsefydlog a nodir yn adolygiad yr Archwilydd Cyffredinol ac i ddilyn ymlaen o waith diweddar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar gymdeithasau tai."