Addurniadau arbennig coed Nadolig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 20/12/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/12/2019

Disgyblion ysgolion cynradd o Ddolgarrog a Threlai sydd wedi addurno coed Nadolig Cynulliad Cenedlaethol Cymru eleni. Mae eu haddurniadau unigryw i’w gweld ar y coed yn y Senedd ac yn swyddfa’r Cynulliad ym Mae Colwyn. 

Roedd swyddfa Bae Colwyn yn llawn o fwrlwm y Nadolig wrth i blant o Ysgol Dyffryn yr Enfys, Dolgarrog gyrraedd ddydd Mercher, 18 Rhagfyr 2019, i helpu i addurno’r goeden Nadolig.

Cyn creu eu haddurniadau, bu’r criw o 12 o ddisgyblion yn dysgu am waith y Cynulliad, pwy yw eu haelodau lleol a beth yw eu gwaith. Roedd cyfle hefyd i ddysgu am waith Senedd Ieuenctid Cymru a’r ffyrdd y gallan nhw gyfrannu at waith y Senedd, fel pobl ifanc. 



Wedi hyn aeth y disgyblion ati i greu’r addurniadau Nadolig gan gynnwys nodyn o Nadolig Llawen i bawb yng Nghymru. Daeth Ann Jones, Aelod Cynulliad ar gyfer Dyffryn Clwyd a Dirprwy Lywydd y Cynulliad, i’w helpu i addurno ac i sgwrsio gyda nhw am ei gwaith.

Meddai un o ddisgyblion Ysgol Dyffryn yr Enfys; “Diolch am bob dim. Mi wnes i wir fwynhau cael y cyfle i wneud yr addurniadau Nadolig a dwi wedi dysgu llawer iawn am y Cynulliad a’r Senedd Ieuenctid. Fyddai’n edrych ymlaen at glywed mwy am y Senedd Ieuenctid yn y flwyddyn i ddod.”



Yn gynharach yn y mis, ar 11 Rhagfyr, daeth 26 o blant Ysgol Herbert Thompson o ardal Trelai yng Nghaerdydd, i ymweld â’r Senedd er mwyn creu addurniadau ar gyfer y coed Nadolig, yng nghwmni Llywydd y Cynulliad, Elin Jones AC. 

Cafodd y plant daith o amgylch y Senedd a chyfle i ddysgu mwy am waith y Cynulliad, gan gynnwys sgwrs gyda’u haelod Cynulliad lleol, y Prif Weinidog Mark Drakeford. 

Bu’r plant yn ddiwyd yn creu addurniadau prydferth a chynaliadwy gyda deunyddiau oedd wedi eu hailgylchu, gan ddysgu am effaith llygredd plastig ar fywyd gwyllt.
 

Ar yr addurniadau, roedd cyfle i’r plant ysgrifennu un y peth maen nhw’n ddiolchgar amdano yn eu cymuned. Mae ymwelwyr â’r Senedd dros gyfnod y Nadolig yn cael cyfle i wneud yr un peth, drwy ysgrifennu eu diolchiadau ar ddarnau o bapur i’w gosod ar y coed Nadolig. 

Daeth Llywydd y Cynulliad, Elin Jones AC, a’r Dirprwy Lywydd, Ann Jones AC, i ymuno â’r plant i addurno’r coed cyn mwynhau perfformiad o ganeuon Nadoligaidd gan y plant yng nghwmni Aelodau a staff y Cynulliad. 

Meddai un o athrawon Ysgol Herbert Thompson, Chloe Martin; “Roedd y plant wedi gwirioni gyda’r gweithgareddau a'r cyfle i weld a dysgu am waith senedd Cymru. Diolch am brofiad oedd mor fuddiol a hyfryd i’n plant.”



Diolch i ddisgyblion Ysgol Dyffryn yr Enfys ac Ysgol Herbert Thompson am ein helpu i ddathlu’r Nadolig yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. 

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda.