Adeilad eiconig y Pierhead yn paratoi i groesawu’r 100,000fed ymwelydd wrth iddo ddathlu blwyddyn o ‘argyhoeddi, cynrychioli ac ysbrydoli’.

Cyhoeddwyd 01/03/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Adeilad eiconig y Pierhead yn paratoi i groesawu’r 100,000fed ymwelydd wrth iddo ddathlu blwyddyn o ‘argyhoeddi, cynrychioli ac ysbrydoli’.

1 Mawrth 2011

Mae bron i gan mil o bobl wedi ymweld ag adeilad nodedig y Pierhead ym Mae Caerdydd ers iddo ailagor ei ddrysau union flwyddyn yn ol i heddiw (1 Mawrth).

Cafodd yr adeilad rhestredig Gradd Un sy’n eiddo i’r Cynulliad ei drawsnewid yn atyniad i ymwelwyr. Fe’i cynlluniwyd ar gyfer argyhoeddi, cynrychioli ac ysbrydoli pobl pan fyddant yn ymweld a Bae Caerdydd.

Yn ogystal a chynnal digwyddiadau ar gyfer amrywiaeth o sefydliadau, mae’r adeilad hefyd yn ategu gwaith y Cynulliad Cenedlaethol o ran ehangu cyfranogaeth yn y broses wleidyddol.

Adeilad eiconig y Pierhead yn paratoi i groesawu’r 100,000fed ymwelydd from Assembly Wales / Cynulliad Cymru on Vimeo.

“Mae’n gyfleuster gwych sydd ar agor i bawb yng Nghymru,” meddai’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Llywydd y Cynulliad.

“Mae’n dweud hanes Bae Caerdydd a datganoli drwy ddetholiad gwych o atyniadau rhyngweithiol i ymwelwyr.

“Mae hefyd yn annog pobl i gymryd rhan uniongyrchol yn y broses wleidyddol drwy nodi’u barn ar y pynciau allweddol y mae Aelodau’r Cynulliad yn eu trafod.

“Mae’r Pierhead hefyd wedi cynnal cyfres o ddigwyddiadau allweddol gan gynnwys sesiynau’r Pierhead y gwanwyn diwethaf pan roddodd enwogion fel yr amgylcheddwr Geroge Monbiot araith gyweirnod.”

Cynhelir cyfres o ddigwyddiadau yn y Pierhead drwy gydol mis Mawrth i nodi’r penblwydd, sydd hefyd yn cyd-fynd a Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar 8 Mawrth.

O 8 Mawrth gofynnir i bobl Cymru ddewis arwres Gymreig o’r gorffennol o restr fer y gellir ei gweld ar wefan y Cynulliad ar www.Cynulliadcymru.org.

Ymysg y digwyddiadau eraill mae:

  • Digwyddiadau ac arddangosfeydd sy’n rhedeg o 8 Mawrth i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod;

  • Noson yng nghwmni’r ieithydd ac athronydd enwog Noam Chomsky ar 11 Mawrth yn y Pierhead. Mae tocynnau ar gael drwy ffonio 0845 0105500 (Bydd tocynau ar gael o Dyd Iau 3 Mawrth.) ;

  • Seminar e-ddemocratiaeth ac ymgysylltu yn y Pierhead ar 30 Mawrth.

Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru hefyd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar gyfer Fforwm Llywodraeth Leol y Gymanwlad, sef digwyddiad a gaiff ei gynnal bob dwy flynedd sy’n dwyn ynghyd arweinwyr seneddol o wledydd y Gymanwlad i drafod ystod o faterion.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Derbyniad i nodi Diwrnod y Gymanwlad yn y Senedd ar 14 Mawrth, a gynhelir gan gangen Cymru Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad. Y thema fydd “Menywod yn ysgogi newid”;

  • Bydd dirprwyaeth o seneddwyr o Ganada yn rhoi cyfres o sesiynau holi ac ateb yn y Pierhead ar 16 Mawrth.