Adroddiad academaidd yn cefnogi tystiolaeth y Llywydd ynglŷn â setliad datganoli yn y dyfodol

Cyhoeddwyd 24/09/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/09/2015

Heddiw (24 Medi), cyhoeddwyd adroddiad ar y cyd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ac Uned Cyfansoddiad Coleg Prifysgol Llundain ar y setliad datganoli yng Nghymru yn y dyfodol.

Mae'r adroddiad, "Delivering a Reserved Powers Model of Devolution for Wales", yn canolbwyntio ar effaith mabwysiadu model datganoli o'r fath yng Nghymru. 

Bydd y Bil Cymru drafft arfaethedig yn darparu ar gyfer symud at fodel cadw pwerau, fel a gytunwyd ym mhroses Dydd Gŵyl Dewi. 

Byddai cam o'r fath yn rhoi setliad datganoli Cymru ar sail debyg i'r hyn sy'n bodoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.  Byddai'n pennu meysydd lle na allwn ddeddfu, yn hytrach na phennu'r rhai lle y gallwn ddeddfu, fel yn achos y setliad presennol.

"Mae'n galonogol gweld bod yr adroddiad mewn cytgord agos â'm gweledigaeth i fy hun ynglŷn â'r hyn y dylid ei gyflawni trwy symud i fodel cadw pwerau - setliad datganoli mwy eglur ac ymarferol ar gyfer pobl Cymru," meddai'r Llywydd, y Fonesig Rosemary Butler.

"Rwyf yn y gorffennol wedi nodi bod angen defnyddio dull seiliedig ar egwyddorion wrth benderfynu beth y dylid ei gadw ar gyfer y DU, ac mai sybsidiaredd ddylai'r egwyddor sylfaenol fod ar gyfer setliadau datganoli - ni ddylai'r canol ond cadw ar ei gyfer ei hun yr hyn na ellir ei wneud yn effeithiol ar lefel genedlaethol ddatganoledig.  Mae'r adroddiad yn cryfhau'r ddadl hon ac yn ystyried sut y gellid cyflawni hynny.

"Mae'n hanfodol mabwysiadu dull gwaith sy'n seiliedig ar egwyddorion, er mwyn darparu sail gadarn a chynaliadwy ar gyfer y setliad. 

"Croesawn y ffaith y bydd yr adroddiad hwn yn cyfrannu at y ddadl bresennol ynglŷn â'r Bil Cymru arfaethedig a'r setliad datganoli ar gyfer Cymru yn y dyfodol, ac yn ehangu'r ddadl honno."

I ddarllen adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru, cliciwch yma.