Mae Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol, Darren Millar AC, wedi cyhoeddi'r datganiad canlynol mewn ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, Llywodraeth Cymru yn Caffael a Pherchnogi Maes Awyr Caerdydd.
Dywedodd Mr Millar:
"Mae'n amlwg o adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol nad yw rhagdybiaethau Llywodraeth Cymru am berfformiad masnachol Maes Awyr Caerdydd yn y dyfodol wedi cael eu gwireddu, yn y tymor byr o leiaf.
"Mae hyn yn codi cwestiynau pwysig ynghylch y pris a dalwyd am y maes awyr, y rhagolygon twf tymor hwy, ac ynghylch unrhyw elw ar fuddsoddiad Llywodraeth Cymru os bydd yn penderfynu gwerthu ei chyfran gyfan yn y maes awyr, neu ran ohoni, yn y dyfodol.
"Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cymryd tystiolaeth ynghylch adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol dros y pythefnos nesaf."
Mae'r adroddiad llawn ar gael gan Swyddfa Archwilio Cymru.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma am y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
Llun: Ben Salter (Flickr), dan drwydded Creative Commons