Adroddiad Archwilio’n dweud bod y contract Meddygon Teulu newydd wedi cyflawni rhai gwelliannau ond nad yw eto’n cynrychioli gwerth am arian

Cyhoeddwyd 16/01/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Adroddiad Archwilio’n dweud bod y contract Meddygon Teulu newydd wedi cyflawni rhai gwelliannau ond nad yw eto’n cynrychioli gwerth am arian

Mae’n rhaid i’r contract newydd ar gyfer Meddygon Teulu gyflawni ei holl fanteision posibl os ydyw am gynrychioli gwerth am arian, yn ôl adroddiad newydd gan Bwyllgor Archwilio’r Cynulliad.

Mae Adolygiad y Pwyllgor o’r Contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol Newydd yng Nghymru, a gyhoeddir heddiw (dydd Mercher 16 Ionawr), yn terfynu trwy ddweud bod angen canolbwyntio ar gyflawni potensial llawn y contract, yn enwedig er mwyn gwella mynediad, canlyniadau a rheoli perfformiad, er bod y contract newydd wedi cyflawni rhai manteision.

Mae’r contract newydd wedi costio £131 miliwn i’r GIG yng Nghymru yn 2005/6 – 44% yn fwy na’r hen gontract – ond mae pryderon nad yw gwella mynediad at Feddygon Teulu wedi ei gyflawni nai fonitro’n gyson.  

Mae gwella mynediad at ofal sylfaenol yn flaenoriaeth allweddol i gleifion.  Fodd bynnag, mae manylder ac ansawdd archwiliadau Byrddau Iechyd Lleol o feddygfeydd er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd eu targedau yn amrywiol.  Mae’r adroddiad yn argymell y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gyflwyno canllawiau ar gyfer archwiliadau a strategaethau i wella mynediad cleifion yn gynnar eleni.  

Mae’r contract newydd wedi cyflawni rhai gwelliannau.  Mae gwasanaethau gwell yn dechrau dod â mwy o wasanaethau arbenigol yn nes at gartrefi’r cleifion ac mae buddsoddi mewn adeiladau’n dechrau cynyddu.  Mae Meddygon Teulu’n elwa o fwy o gyflog (cyfartaledd o 25% yn nwy flynedd gyntaf y contract) a llai o oriau gwaith. Mae hyn yn golygu bod practis cyffredinol yn fwy atyniadol, ac mai ychydig o broblemau recriwtio a chadw a geir yng Nghymru.  

Yn ychwanegol at hyn, mae cleifion yn elwa o well rheolaeth ar lawer o gyflyrau cronig drwy’r Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau ac mae disgwyl i hyn barhau.  Fodd bynnag, mae llawer o Fyrddau Iechyd Lleol yn brwydro i ryddhau cynilion o ofal eilaidd er mwyn ariannu’r newidiadau hyn, ac mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ei gwneud yn haws i Fyrddau Iechyd Lleol drosglwyddo adnoddau o ofal eilaidd er mwyn gwella gwasanaethau sylfaenol a chymunedol.   

Dywedodd David Melding AC, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio: “Mae’r contract newydd wedi cyflawni rhai manteision i gleifion yng Nghymru, ond mae angen gwneud mwy i sicrhau bod yr holl fanteision posibl yn cael eu gwireddu, neu ni fydd yn cynrychioli gwerth am arian.

“Mae anghysondeb o ran rheoli’r contract ar draws Cymru, gyda rhai archwiliadau pwysig nad ydynt yn cael eu gwneud. Mae hyn yn annerbyniol. Mae’r Pwyllgor wedi gwneud nifer o argymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru a gobeithiaf y byddant yn gweithredu ar y rhain fel y gall y gwelliannau barhau ac y gall cleifion dderbyn y gwasanaeth y maent yn ei haeddu.”