Adroddiad Archwilio newydd yn dweud mai ‘‘tipyn o fenter’’ oedd prosiect Yr Ardd Fotaneg

Cyhoeddwyd 26/04/2006   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Adroddiad Archwilio newydd yn dweud mai ‘‘tipyn o fenter’’ oedd prosiect  Yr Ardd Fotaneg

26 Ebrill 2006

Yn ôl adroddiad newydd gan y Pwyllgor Archwilio ni wnaeth y  cyrff cyhoeddus oedd yn cyllido Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru waith digonol wrth asesu’r peryglon oedd ynghlwm â’r prosiect ac ymateb iddynt.

Mae Pwyllgor Archwilio'r Cynulliad yn cyhoeddi’i adroddiad heddiw (Dydd Mercher  26 Ebrill), Ariannu Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Pan agorodd yr Ardd Fotaneg ym mis Mai 2000, talwyd tua hanner y costau cyfalaf o £43.6m gan Gomisiwn y Mileniwm . Daeth gweddill y cyfalaf o amryw o ffynonellau, yn cynnwys £6.3 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a weinyddir gan Y Swyddfa Gymreig, £2.1miliwn o Awdurdod Datblygu Cymru a  £1.2 miliwn o Fwrdd Croeso Cymru. Daw’r adroddiad i’r casgliad bod y cyrff hyn wedi deall bod prosiect yr Ardd yn dipyn o fenter ond eu bod heb archwilio a herio’i gynlluniau busnes yn ddigonol. Canfu’r Pwyllgor, fodd bynnag, fod Llywodraeth y Cynulliad a rhanddeiliaid allweddol wedi cydweithio â’r Ardd ers Ebrill 2002 tuag at ddyfodol cynaliadwy, gan dorri i lawr gymaint â phosibl ar y costau i’r sector cyhoeddus. Canfu’r adroddiad hefyd y gallasai gweinyddwyr y cronfeydd cyhoeddus yng Nghymru fod wedi cydweithredu’n fwy effeithiol wrth werthuso ac wrth ddatblygu’r cyfalaf ac yn ystod cyfnodau hollbwysig gweithredu cynnar prosiect yr Ardd. Roedd arwyddion clir o’u blaenau fod yr Ardd yn wynebu anawsterau ariannol  o bosibl, ond ni ddaethant at ei gilydd a ffurfio llun cynhwysfawr o’r sefyllfa tan i gyflwr ariannol yr Ardd droi’n wir argyfwng. Mae’r adroddiad yn argymell nifer o bethau ar gyfer prosiectau yn y dyfodol, gan gynnwys dadansoddi gwell ar gynlluniau busnes a mwy o gydweithredu rhwng y partneriaid sy’n ariannu’r gwaith. Dywedodd Janet Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio: “Roedd yr Ardd yn brosiect eithaf mentrus – y bwriad oedd iddi fod yn hunan-gynhaliol yn ariannol unwaith y byddai’n agored i’r cyhoedd. Does dim byd o’i le mewn gwario arian y sector cyhoeddus ar brosiect mentrus, ond mae’n rhaid gwybod hyd a lled y risgiau sydd ynghlwm wrth hyn a’u rheoli. Mae’n dda gan y Pwyllgor nodi, fodd bynnag, fod yr Ardd yn ôl pob golwg yn cyrraedd ei phrif dargedau adferiad strategol i raddau helaeth ac ymddengys bellach fod dyfodol gwell o’i blaen. Mae’r camau a gymerwyd gan gyllidwyr Cymru i geisio sicrhau dyfodol iach i’r Ardd yn dangos yr hyn sydd yn bosibl pan geir agwedd gydweithredol effeithiol.”