Adroddiad archwilio yn canmol ‘llwyddiant nodedig’ y Cynulliad wrth leihau absenoldeb staff oherwydd salwch

Cyhoeddwyd 17/01/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Adroddiad archwilio yn canmol ‘llwyddiant nodedig’ y Cynulliad wrth leihau absenoldeb staff oherwydd salwch

Yn ôl adroddiad Archwilio newydd, mae lefelau absenoldeb oherwydd salwch yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru wedi gostwng yn sgil arweiniad clir a gweithdrefnau rheoli gwell. Heddiw (Dydd Mercher 17 Ionawr), mae Pwyllgor Archwilio y Cynulliad yn cyhoeddi adroddiad ar reoli absenoldeb oherwydd salwch yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae’r adroddiad yn canmol y camau a gymerwyd i leihau absenoldeb oherwydd salwch ond yn dweud bod modd o hyd i wella rhagor ar hyn. Rhwng 2004 a 2005, syrthiodd cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch ymhlith y 6,500 o staff y Cynulliad o gyfartaledd o ddeg diwrnod yr aelod i gyfartaledd o wyth diwrnod, gyda gostyngiad neilltuol yn lefelau absenoldeb hirdymor.  Cafwyd lleihad ymhellach yn hanner cyntaf 2006. Dywed yr adroddiad fod hyn yn ‘llwyddiant nodedig’. Y prif resymau dros y llwyddiant hwn yw’r ymroddiad eglur gan yr uwch reolwyr a gefnogwyd gan bolisïau a gweithdrefnau diwygiedig megis cyfweliadau dychwelyd i’r gwaith, a chynnydd yn y gwariant ar iechyd a diogelwch ac ar iechyd galwedigaethol a chwnsela i’r staff. Mae’r adroddiad, fodd bynnag, yn argymell nifer o ffyrdd i ragori ymhellach ar hyn, gan gynnwys cofnodi absenoldeb yn gywirach a dadansoddi absenoldebau salwch yn well. Mae’r adroddiad hefyd yn argymell bod angen gwneud mwy i fynd i’r afael â’r diwylliant oriau gwaith hir – mae dau aelod o bob pump o staff y Cynulliad yn dweud ei bod hi’n amhosibl iddynt gyflawni’u gwaith oddi mewn i oriau’u contract. Dywedodd Janet Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio: “Mae’r Cynulliad wedi cymryd camau sylweddol a chlodwiw wrth reoli absenoldeb oherwydd salwch, ond mae’r Pwyllgor yn credu y byddai cymryd mwy o fesurau posibl eto yn arwain at fwy o welliant eto. Staff y Cynulliad yw ei brif ased ac mae iechyd, lles a phresenoldeb y rhain yn hanfodol er mwyn cyflawni’r amcanion busnes ehangach.”