Adroddiad pwysig newydd yn mynnu bod lleisiau pobl ifanc anabl yn cael eu clywed

Cyhoeddwyd 16/01/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Adroddiad pwysig newydd yn mynnu bod lleisiau pobl ifanc anabl yn cael eu clywed

Mae Pwyllgor Cyfle Cyfartal y Cynulliad Cenedlaethol yn mynd i lansio  adroddiad pwysig newydd ynghylch gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc anabl yng Nghymru. Yn y fenter gyntaf o’i math, penodwyd grwp cyfeirio o bobl ifanc anabl o Gymru benbaladr i gynorthwyo’r Pwyllgor wrth iddo adolygu’r polisi gwasanaethau. Hyrwyddwyd y grwp gan  Barnardo’s Cymru fu’n eu galluogi i glustnodi’r materion sydd yn effeithio ar bobl ifanc anabl yng Nghymru a chynhyrchu tystiolaeth i’r Pwyllgor ar sawl ffurf arloesol. Bu’r adolygiad yn ystyried meysydd megis addysg a hyfforddiant, cludiant, byw’n annibynnol a deddfwriaeth. Yn yr adroddiad terfynol ceir cyfanswm o ddeugain argymhelliad eang eu hystod. Ymhlith y rhain, nodir y dylid rhoi mwy o lais i’r bobl ifanc eu hunain wrth ddewis eu gofalwyr, y dylid cael gweithdrefnau cwyno gwell a sicrhau bod lletyau mwy addas ar gael i’w rhentu. Mae’r adroddiad yn cyfeirio hefyd at gyflogaeth gan ddweud bod angen osgoi’r anghymhelliad i bobl anabl weithio sydd yn gynhenid yn y system fudd-daliadau bresennol, a gwneud mwy i annog cyflogwyr yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat i gyflogi pobl anabl. Mae’r Pwyllgor hefyd yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru, wrth ddarparu gwasanaethau addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, yn sicrhau cymorth unigol i bobl ifanc anabl.   Dywedodd Gwenda Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Penderfynom ni adolygu’r polisi ar ddarparu gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc anabl ar ôl inni dderbyn maniffesto’r bobl ifanc anabl fu wrthi’n trefnu am y tro cyntaf erioed  ‘Hawliau ar waith’ sef Cyngres Ryngwladol Pobl Ifanc Anabl, a gynhaliwyd yn Abertawe. Roedd y Maniffesto’n nodi nifer o faterion pwysig oedd yn llesteirio’r bobl ifanc rhag rheoli’u bywydau a chyflawni’u potensial i’r eithaf. ‘Dim byd amdanom ni hebom ni’ oedd yr arwyddair a fabwysiadwyd gan y Gyngres, oedd yn fenter a ddeilliodd o Flwyddyn Ewropeaidd Pobl Anabl 2003.  Mae’n adlewyrchu’r ffaith fod gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc anabl yn y gorffennol wedi’u darparu gan bobl heb anabledd, a heb i’r bobl ifanc eu hunain gael llais mewn gwirionedd i fynegi’u dymuniadau a’u hanghenion. Mabwysiadodd y Pwyllgor yr arwyddair ‘ Dim byd amdanom ni hebom ni’ ar gyfer ei adolygiad. Gobaith yr Aelodau yw bod y profiad wedi bod o fudd i bawb oedd yn gysylltiedig ag ef, yn enwedig y bobl ifanc, ac y bydd yn annog pobl eraill fydd yn llunio polisïau ac yn gwneud penderfyniadau yn y dyfodol i weld y fantais ddaw o weithio’n uniongyrchol ac yn briodol mewn partneriaeth â phobl ifanc wrth ddatblygu polisïau a chyflwyno gwasanaethau. “ Bydd adroddiad y Pwyllgor yn cael ei lansio am 12.30pm, ddydd Mawrth 16 Ionawr, yn Oriel y Senedd, Bae Caerdydd