Adroddiad y Pwyllgor Archwilio yn nodi bod gormod o achosion lle nad yw oedolion â phroblemau iechyd meddwl yn cael y cymorth sydd ei angen arnyntneed

Cyhoeddwyd 19/07/2006   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Adroddiad y Pwyllgor Archwilio yn nodi bod gormod o achosion lle nad yw oedolion â phroblemau iechyd meddwl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt

Mae yna ormod o amrywiaeth o ran y gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion a ddarperir ledled Cymru o hyd, ac mae gormod o achosion lle nad yw pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt yn ôl adroddiad newydd gan Bwyllgor Archwilio'r Cynulliad. Mae'r adroddiad, Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion yng Nghymru: Adolygiad Sylfaenol o'r Gwasanaethau a Ddarperir, a gyhoeddir heddiw (dydd Mercher 19 Gorffennaf) yn argymell bod angen i'r GIG, llywodraeth leol, iechyd cyhoeddus a'r sector gwirfoddol weithio gyda'i gilydd i wella gwasanaethau. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi nodi iechyd meddwl fel un o'i blaenoriaethau, ond canfu'r Pwyllgor nad yw bob amser yn flaenoriaeth leol ac mae'r gallu i gomisiynu gwasanaethau iechyd meddwl yn effeithiol i'r boblogaeth leol yn cael ei rwystro gan ddiffyg staff â sgiliau arbenigol yn y maes hwn.   Nid yw hon yn broblem sy'n unigryw i Gymru, ond noda'r adroddiad ei fod yn siomedig nad yw Byrddau Iechyd Lleol cyfagos wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth i gomisiynu'r gwaith ar y cyd. Yn ôl yr adroddiad, her arall fyddai datblygu gwasanaethau sy'n canolbwyntio mwy ar atal problemau iechyd meddwl â'u canfod yn gynnar.  Er bod canllawiau strategol a chanllawiau polisi Llywodraeth y Cynulliad yn cydnabod bod hyrwyddo iechyd meddwl ac ymyrraeth gynnar yn bwysig, noda llawer o ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr mai'r unig ffordd y gallant gael cymorth arbenigol yw os ydynt yn cael argyfwng o ran iechyd meddwl.  Noda'r adroddiad fod hyn yn annerbyniol. Mae mynediad i dimau iechyd meddwl cymuned y tu allan i oriau gwaith arferol hefyd yn hanfodol.  Nid oes gan rai rhannau o Gymru wasanaethau datrys argyfwng na gwasanaethau allgymorth pendant ac mae llawer o gleifion iechyd meddwl yn aros mewn llety nad yw’n addas ar gyfer eu hanghenion a dim ond yn ystod oriau gwaith arferol y mae timau iechyd meddwl yn gweithio fel arfer.  O ganlyniad, nid yw llawer o gleifion yn derbyn y cymorth cywir ar yr adeg gywir i'w helpu i wella'n iawn. Dywedodd Janet Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor: "Roedd ein harchwiliad yn canolbwyntio ar y camau a gymerir i wella gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion yng Nghymru. Yn benodol, ein nod oedd cael sicrwydd fod camau pendant a chydgysylltiedig yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r bylchau yn y gwasanaethau a ddarperir a nodwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Gwelwyd gwelliannau mewn llawer o feysydd, ond mae dal gormod o achosion lle nad yw pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Mae angen i Lywodraeth Cynulliad Cymru ac asiantaethau lleol gymryd camau brys i fynd i'r afael â'r pryderon hyn."