Adroddiad ymchwil yn datgan bod uno Cyrff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad (CCNC) wedi sicrhau nifer o lwyddiannau ond bod rhai agweddau ar reoli ariannol yn anfoddhaol.

Cyhoeddwyd 03/04/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Adroddiad ymchwil yn datgan bod uno Cyrff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad (CCNC) wedi sicrhau nifer o lwyddiannau ond bod rhai agweddau ar reoli ariannol yn anfoddhaol.

Sicrhaodd Llywodraeth Cynulliad Cymru nifer o lwyddiannau pwysig wrth reoli prosiect uno’r Cyrff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad yn ôl adroddiad newydd gan Bwyllgor Archwilio’r Cynulliad. Fodd bynnag, roedd rhai agweddau ar y gwaith rheoli ariannol yn ystod y broses uno yn anfoddhaol a cheir rhai gwendidau o ran mesur costau a manteision y prosiect uno ei hun.

Mae adroddiad y Pwyllgor ar Gyfrifon Adnoddau Cyfunol 2006-07 Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sef y gyfres gyntaf o gyfrifon ers uno’r cyrff hyn, yn dod i’r casgliad bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi llwyddo ar y cyfan i reoli prosiect uno’r Cyrff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad oherwydd cryfder y trefniadau llywodraethu, gwaith rheoli prosiect effeithiol ac ymrwymiad a chyfraniad staff yr holl sefydliadau perthnasol.

Fodd bynnag, mae’r pwyllgor wedi datgan pryderon na chynhaliwyd cysoniadau banc misol ar amser yn ystod y rhan fwyaf o 2007 a bod Llywodraeth y Cynulliad wedi dod ar draws anawsterau yn dilyn y broses uno o ran prosesu nifer gynyddol o dderbyniadau a gynhyrchir gan weithgareddau gwahanol yr hen gyrff a noddwyd.

Y costau a gyhoeddwyd ar gyfer y rhaglen uno oedd £14.5miliwn, sef cynnydd o £2.6miliwn ar y costau arfaethedig o £11.9miliwn. Fodd bynnag, nid yw’r costau hyn yn gyflawn gan nad ydynt yn cynnwys y costau roedd adrannau Llywodraeth y Cynulliad yn gallu’u hariannu o’u cyllidebau adrannol presennol. Mae swyddogion Llywodraeth y Cynulliad wedi cyfrifo bod y broses uno wedi arwain at arbedion o tua £3.5miliwn erbyn 31 Mawrth 2007, a hysbyswyd y pywllgor eu bod yn disgwyl cyfanswm arbedion effeithlonrwydd o tua £10 miliwn y flwyddyn o 2009. Fodd bynnag, nid yw’r aelodau’n ffyddiog bod y rhagolygon o ran arbedion effeithlonrwydd wedi’u gosod ar seiliau cadarn.

Dywedodd David Melding AC, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio: “Mae’n bwysig bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cryfhau ei phrosesau rheoli ariannol. Yn arbennig, mae’r pwyllgor o’r farn bod angen trefniadau llywodraethu mwy cadarn ac rydym yn galw am fwy o aelodau allanol i wasanaethu ar Bwyllgorau Llywodraethu Corfforaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru. Dylai’r pwyllgorau hyn, sy’n hanfodol ar gyfer gweinyddu effeithlon, gael eu cadeirio gan bobl annibynnol a benodir yn allanol.”

Yr Adroddiad