Adroddiad yn galw am wella hygyrchedd gorsafoedd pleidleisio

Cyhoeddwyd 07/12/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Adroddiad yn galw am wella hygyrchedd gorsafoedd pleidleisio

Canfu ymchwiliad Pwyllgor Cynulliad i hygyrchedd gorsafoedd pleidleisio fod enghreifftiau o rampiau dros dro heb gael eu gosod yn iawn, goleuo gwael oedd yn dramgwydd i bobl â nam ar eu golwg a phapurau pleidleisio print mawr heb fod yn y golwg.

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyfle Cyfartal ei ymchwiliad i gefnogi ymgyrch Scope ynghylch democratiaeth hygyrch sef Etholiadau’n Eithrio (Cymru). Casgliad adroddiad terfynol y Pwyllgor a gyhoeddir heddiw yw y gellid datrys y rhan fwyaf o faterion hygyrchedd drwy gyfuniad o hyfforddi, codi ymwybyddiaeth, defnyddio adnoddau’n fwy effeithiol a newid ymddygiad.

Gwelodd y Pwyllgor fod yr awdurdodau lleol wedi ymdrechu i wella hygyrchedd ffisegol gorsafoedd pleidleisio a bod hygyrchedd yn ystod  etholiad diwethaf y  Cynulliad yn 2007 yn well nag o’r blaen, ond bod pobl anabl yn wynebu nifer o broblemau o hyd.

Mae’r adroddiad yn argymell y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gynnal arolygon hygyrchedd yn gyson a chymell yr awdurdodau lleol i ddefnyddio’r adnoddau’n well a sicrhau bod pob cyfarpar ffisegol angenrheidiol ar gael i hyrwyddo hygyrchedd. Mae hefyd yn galw ar y cynghorau i ffurfio cyswllt â grwpiau pobl anabl yn y cylch er mwyn codi ymwybyddiaeth, ac i annog eu staff eu hunain sydd ag anableddau i awgrymu gwelliannau.

Hefyd, hoffai’r Pwyllgor i’r Comisiwn Etholiadol gynnwys dimensiwn cydraddoldeb anabledd i nifer o’r dangosyddion perfformiad ar gyfer etholiadau a refferenda.

Dywedodd Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “’R ydw’n ddiolchgar iawn i bob sefydliad a roddodd dystiolaeth i’r ymchwiliad, yn enwedig Scope am eu gwaith yn y maes hwn, a gobeithio y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r awdurdodau lleol yn gwrando ar y canfyddiadau hyn ac yn gweithredu arnynt.

“Cytunodd yr Aelodau heb amheuaeth fod angen i bobl anabl gael dewis sut i fwrw’u pleidlais; efallai y byddai rhai yn dewis pleidleisio’n electronig neu drwy’r post ond dylid sicrhau bod pawb sydd yn dymuno pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio yn gallu gwneud felly. Mae’n rhaid inni godi ymwybyddiaeth ynghylch y materion hyn fel na fydd pobl anabl dan anfantais wrth ymarfer eu hawl ddemocrataidd i bleidleisio.”