Adroddiad yn galw am wella’r ffordd y caiff sefydliadau gwirfoddol eu hariannu

Cyhoeddwyd 21/05/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Adroddiad yn galw am wella’r ffordd y caiff sefydliadau gwirfoddol eu hariannu

Mae adroddiad newydd gan y Cynulliad heddiw’n galw am wella mynediad at wybodaeth i sefydliadau gwirfoddol ac am lai o fiwrocratiaeth wrth eu hariannu.

Mae’r Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant heddiw’n cyhoeddi canlyniadau ei ymchwiliad i’r ffordd y caiff y sector gwirfoddol, neu’r ‘trydydd sector’, ei ariannu. Mae hwn yn sector sy’n cynnwys sefydliadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol, grwpiau hunan-gymorth, grwpiau a mentrau cydweithredol cymunedol, grwpiau crefyddol, a sefydliadau eraill di-elw.

Hwn yw’r ymchwiliad craffu cyntaf a gwblhawyd gan y Pwyllgor. Derbyniodd Aelodau dystiolaeth gan groestoriad o’r 30,000 o sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru yn ogystal â Llywodraeth y Cynulliad, llywodraeth leol a sefydliadau fel Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Chwaraeon Cymru.

Nid yw’r adroddiad yn galw am ragor o arian ac mae’n cydnabod bod Llywodraeth y Cynulliad wedi cynyddu’r arian a roddir i’r trydydd sector dros y pedair blynedd diwethaf; o £79 miliwn yn 2002-03 i £174 miliwn yn 2006-07.

Mae rhai o argymhellion yr adroddiad yn cynnwys galw am adolygu’r meini prawf ar gyfer ariannu, porthol ar y we yn darparu gwybodaeth ar gyfer y sector gwirfoddol, a sicrhau bod ffurflenni cais am arian yn gliriach.

Mae’r pwyllgor hefyd yn argymell y dylai Llywodraeth y Cynulliad ariannu pedwar prosiect peilot mewn ardaloedd trefol a gwledig er mwyn darparu hyfforddiant a chefnogaeth i helpu sefydliadau gwirfoddol bach i ddod yn fwy hunangynhaliol – dylid annog y sector preifat i helpu, un ai drwy gynnig nawdd neu drwy fenthyca staff â sgiliau penodol ar secondiad tymor byr. Mae hefyd yn nodi y dylai’r Llywodraeth, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill drin y trydydd sector fel partner strategol wrth gynllunio, comisiynu a darparu gwasanaethau cyhoeddus.

Dywedodd Janice Gregory AC, Cadeirydd y pwyllgor: “Mae gan y trydydd  sector gyfraniad hanfodol i’w gynnig i gymdeithas sifil; nid yn unig yn yr ystod o wasanaethau a ddarperir ond hefyd wrth gynnig cyfleoedd i bobl roi o’u hamser, eu profiad a’u harbenigedd er lles eraill ac er lles cyfoethogi bywyd cymunedol. Creodd brwdfrydedd ac ymroddiad y rheini y cyfarfuom â hwy yn ystod yr ymchwiliad argraff arnom.

“Nid yw’r pwyllgor yn galw am ragor o arian ac mae’n cydnabod y gefnogaeth a roddir ar hyn o bryd gan Lywodraeth y Cynulliad a chyrff ariannu eraill. Fodd bynnag, rydym yn teimlo bod cyfleoedd ar gael i helpu sefydliadau’r trydydd sector i wneud gwell defnydd o’u hamser a’u hegni; er enghraifft, drwy wella mynediad at wybodaeth ynghylch ariannu a thrwy leihau biwrocratiaeth mewn gweithdrefnau gwneud cais am arian.

"Rwy’n rhagweld y caiff ein hadroddiad ei ddarllen yn eang gan y sector a gobeithiaf y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn derbyn ein hargymhellion. Edrychaf ymlaen at dderbyn eu hymateb maes o law.”