Aelod Cynulliad newydd dros Ddwyrain De Cymru’n tyngu llw ar gyfer ymgymryd â’i swydd newydd
2 Gorffennaf 2010
Mae Veronica German wedi tyngu ei llw teyrngarwch fel Aelod Cynulliad newydd y Democratiaid Rhyddfrydol dros ranbarth Dwyrain De Cymru.
Hi hefyd fydd Gweinidog Gwrthblaid y Democratiaid Rhyddfrydol dros Iechyd, Llywodraeth Leol a Chydraddoldeb.
Bydd hi hefyd yn dod yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau, y Pwyllgor Cyfle Cyfartal, y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol a Phwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3.
Mae gan Mrs German gefndir ym maes gwyddoniaeth a pheirianneg ac, fel cyn athrawes, mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn addysg a phobl ifanc.