Aelod Cynulliad yn brif siaradwr cynhadledd yr UE

Cyhoeddwyd 20/01/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Aelod Cynulliad yn brif siaradwr cynhadledd yr UE

Christine Chapman AC fydd prif siaradwr cynhadledd yr UE ar swyddi a thwf economaidd yn Mallorca heddiw (dydd Llun 18 Ionawr).

Trefnwyd y gynhadledd gan Bwyllgor Rhanbarthau’r UE a Llywodraeth Sbaen. Cynhelir y gynhadledd wrth i Sbaen gymryd yr awenau yn y system o gylchdroi llywyddiaeth Cyngor yr UE, lle mae’r 27 aelod-wladwriaeth yn cymryd eu tro i lywyddu am gyfnod o chwe mis.

Mae themâu’r gynhadledd yn cynnwys dyfodol Strategaeth Lisbon ac ymatebion lleol a rhanbarthol i’r argyfwng ariannol. Bydd yr Aelod Cynulliad dros Gwm Cynon yn siarad ar ran Pwyllgor y Rhanbarthau, fel yr aelod a benodwyd gan y Pwyllgor i adrodd ar ddyfodol y strategaeth. Bydd yn cyflwyno prif argymhellion ei hadroddiad, a gafodd ei gymeradwyo ym Mrwsel ym mis Rhagfyr 2009, ynghyd â chyfeirio at yr hyn sydd wedi ei wneud yng Nghymru mewn ymateb i’r argyfwng economaidd.

"Cynhelir y gynhadledd hon ar adeg bwysig—mae disgwyl i’r Comisiwn Ewropeaidd gyflwyno ei gynigion ynghylch strategaeth y dyfodol ym mis Chwefror, ac mae disgwyl i benaethiaid gwladwriaethau a llywodraethau’r UE gytuno ar y cynigion yn ystod eu cyfarfod yn yr uwchgynhadledd Ewropeaidd ym mis Mawrth. Rwyf wedi dadlau yn gryf bod rhaid i’r UE ddilyn trywydd newydd, ac nad parhau ar yr un llwybr yw’r dewis cywir.

"Rwyf wedi galw am strategaeth gynaliadwy i Ewrop, yn seiliedig ar y rhagdybiaeth fod adnoddau’r byd yn gyfyngedig a bod pris i’w dalu am dwf economaidd.

"Mae fy adroddiad yn amlinellu’r lefelau cynyddol o anghydraddoldeb cymdeithasol a thlodi yn Ewrop, a’r angen, o ganlyniad i hynny, am adnewyddu a chryfhau polisi cymdeithasol i fynd i’r afael â’r broblem. Mae’r teimlad o siom ymysg aelodau’r cyhoedd ynghylch taliadau bonws eithafol i fancwyr yn arwydd berffaith o’r angen am newid."

"Byddaf hefyd yn amlinellu pwysigrwydd adnabod rôl bwysig ardaloedd lleol a rhanbarthol Ewrop wrth roi blaenoriaethau strategol ar waith yn lleol.   Rhaid i’r Comisiwn Ewropeaidd wrando arnom wrth i ni alw am fwy o gydnabyddiaeth am ein gwaith. Yn olaf, rwy’n ail-bwysleisio’r gefnogaeth sydd ar draws rhanbarthau Ewrop i barhau â pholisi cydlyniant sy’n cynnwys holl wledydd yr UE.

"Rwyf hefyd yn pwysleisio pa mor ddefnyddiol y mae hi wedi bod i allu defnyddio cronfeydd strwythurol i gefnogi mentrau i liniaru effeithiau’r dirywiad economaidd, fel ProAct and ReAct yng Nghymru.

Bydd y gynulleidfa’n cynnwys aelodau o Bwyllgor y Rhanbarthau, gwleidyddion a swyddogion o Lywodraeth Sbaen a’i rhanbarthau ymreolaethol, cynrychiolwyr o rwydweithiau’r UE a rhanddeiliaid eraill.

Gwybodaeth ychwanegol

  • Am ragor o wybodaeth am Bwyllgor y Rhanbarthau, ewch i: http://www.cor.europa.eu/pages/HomeTemplate.aspx

  • Atodir agenda llawn ar gyfer y cyfarfod yn Mallorca.