Aelodau’r Cynulliad i drafod y ddarpariaeth ar gyfer pobl ifanc ag awtistiaeth mewn addysg bellach

Cyhoeddwyd 14/07/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Aelodau’r Cynulliad i drafod y ddarpariaeth ar gyfer pobl ifanc ag awtistiaeth mewn addysg bellach

14 Gorffennaf 2010

Heddiw (14 Gorffennaf), bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn trafod adroddiad pwyllgor a oedd yn amlygu darpariaeth anghyson mewn addysg bellach ar gyfer pobl ifanc ag awtistiaeth.

Canfu ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Dysgu bod bwlch mawr rhwng y strategaeth ar gyfer darpariaeth yng Nghymru a chyflawni ar lawr gwlad.

Un o brif bryderon y Pwyllgor oedd y straen diangen a roddir ar deuluoedd yn ystod y ‘cyfnod pontio’ rhwng ysgol a choleg o ganlyniad i’r oedi yn y broses o wneud penderfyniadau.

Clywodd dystiolaeth hefyd am bobl yn gorfod teithio pellteroedd mawr er mwyn mynychu colegau arbenigol yn Lloegr pan mae cyfleusterau priodol eisoes ar gael yng Nghymru.

“Un o’r pethau pwysicaf sydd ei angen ar berson ifanc ag awtistiaeth yw amser: amser i addasu, amser i gynefino ac amser i dderbyn newid mewn trefn ac amgylchedd,” meddai Gareth Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Dysgu.

“Mewn llawer o achosion nid yw pobl ifanc a’u teuluoedd yn cael gwybod yn ddigon buan yn ystod y flwyddyn a fydd ganddynt le mewn addysg bellach, a gall hyn achosi pryder i bawb.

“Mae angen cyfathrebu yn gynt a chael gwell cyfathrebu rhwng yr holl bartneriaid sydd ynghlwm â gwneud asesiadau a phenderfyniadau ynghylch dyfodol person ifanc.

“Mae’n rhaid i’r person ifanc fod yng nghanol y broses o gyflenwi polisïau yn y dyfodol fel y gellir teilwra’r ddarpariaeth ar gyfer anghenion unigolion. Edrychaf ymlaen at glywed yr hyn sydd gan y Gweinidog a fy nghyd Aelodau Cynulliad i’w ddweud.”

Cafodd 17 o’r 19 argymhelliad a wnaed yn yr adroddiad naill ai eu derbyn neu eu derbyn mewn egwyddor gan Leighton Andrews AC, y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes. Gwrthodwyd un a chyfeiriwyd un arall at sefydliad ar wahân.