Aelodau’r Cynulliad i wynebu tîm Undeb Rygbi Cymru a’u 148 o gapiau mewn gêm rygbi elusennol

Cyhoeddwyd 21/05/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Aelodau’r Cynulliad i wynebu tîm Undeb Rygbi Cymru a’u 148 o gapiau mewn gêm rygbi elusennol

A hwythau’n fwy cyfarwydd ag ymaflyd geiriol yn siambr drafod y Senedd, bydd rhai o Aelodau’r Cynulliad yn wynebu her tipyn fwy corfforol wrth iddynt ddod wyneb yn wyneb â thîm o gyn chwaraewyr rhyngwladol Cymru ddydd Iau 22 Mai ar Gae Coffa Crwydriaid Morgannwg (y gic gyntaf am 7.15pm).

Bydd tri o Aelodau’r Cynulliad, Andrew Davies, Alun Cairns ac Alun Davies yn wynebu profiad chwaraewyr sydd â 148 o gapiau rhyngddynt mewn gêm elusennol a drefnwyd er mwyn codi arian i Gronfa Elusennol Rygbi Cymru a Bowel Cancer UK. Capten tîm Llywydd Undeb Rygbi Cymru fydd Nigel Davies. Bydd y tîm hefyd yn cynnwys David Pickering, tra bydd David Bishop a Mark Ring yn gobeithio ailgynnau eu partneriaeth lwyddiannus yn yr haneri. Bydd tîm y Senedd hefyd yn gorfod wynebu cyflymdra Nigel Walker, y gwibiwr dros y clwydi a gystadlodd yn y gemau Olympaidd ac a drodd yn asgellwr rygbi rhyngwladol. Fodd bynnag, mae gan dîm Llywydd y Cynulliad ei arf dirgel ei hun sef Arthur Emyr, yr asgellwr a enillodd 13 cap dros Gymru, ac a gyflogir bellach gan Lywodraeth y Cynulliad fel Cyfarwyddwr Cymru Gemau Olympaidd 2012.

Er nad yw Alun Cairns, capten tîm y Cynulliad, yn disgwyl gêm hawdd yn erbyn tîm mor brofiadol, mae’n dweud: “Rydym yn barod am yr her. Sefydlwyd y tîm hwn o Aelodau a staff y Cynulliad ddwy flynedd yn ôl, ac er ein bod yn fwy cyfarwydd â wynebu timau llai profiadol, mae gennym record ddiguro, a byddwn yn ymladd i’r eithaf i geisio cadw’r record honno. Mae digon o gryfder a dyfnder gennym yn ein carfan, felly rydym yn gobeithio sicrhau canlyniad annisgwyl.”

Dewiswyd Bowel Cancer UK fel elusen o ddewis tîm rygbi’r Cynulliad Cenedlaethol gan i’w sylfaenydd, y cyn AC, Glyn Davies, ddioddef a gwella o’r salwch. Gellir defnyddio rhaglen y gêm fel tocyn mynediad a thocyn raffl, a byddant ar gael wrth y fynedfa am £5. Caiff holl elw’r noson ei rannu’n gyfartal rhwng y ddwy elusen.

Tîm Llywydd y Cynulliad:

15. Craig Gillespie,14. Owen Hathaway ,13. Simon Rees ,12. Alun Davies AM,11. Arthur Emyr ,10. Darren Price ,9. Huw Bowen ,1. Lloyd Bowen ,2. Tom Davies ,3. Alex Price ,4. Gavin Burns,5. Andrew RT Davies AM ,6. Alun Cairns AM,7. Toby Mason ,8 Joel Steed (capt),
Replacements: ,Mat Mathias, Ioan Bellin, Paul Pavia, Sean Lloyd, Arwel Hughes, Aaron Francis, Nathan Huish, Dan Collier, Simon Wall, Bleddyn Preece, Mike Jones, Tim Lloyd

Tîm Llywydd URC:

15 John Williams,14.Nigel Walker,13. Roger Bidgood,12. Nigel Davies (capt),11. Glenn Webbe ,10 Mark Ring,9. David Bishop / Mark Douglas,1. Anthony Buchanan,2. Peter Rogers / James Chapron,3. Martyn Maddon ,4. Glyn Llewelyn ,5. Alex Luff,6. Mark Bennett,7. David Pickering ,8. Rob Appleyard
Replacements: TBC