Aelodau’r Cynulliad yn cael y cyfle i basio deddfau newydd

Cyhoeddwyd 12/12/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Aelodau’r Cynulliad yn cael y cyfle i basio deddfau newydd

Cynhaliwyd yr ail balot ar gyfer Aelodau’r Cynulliad nad ydynt yn rhan o’r llywodraeth i deddfu ar gyfer Cymru o dan bwerau newydd y Cynulliad.

Rhoddir cyfle i Dai LLoyd AC gyflwyno mesur arfaethedig ar asesu effaith gwerthu meysydd chwarae tra bydd Helen Mary Jones AC yn ceisio cael Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ynghylch darparu pecynau gwybodaeth i olfalwyr.

Mae Deddf Llywodraeth Cymru’n rhoi pwer i’r Cynulliad wneud ei ddeddfwriaeth ei hun ar faterion datganoledig fel iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol a llywodraeth leol. Bydd y rhain yn gategori newydd o gyfreithiau Cymru a elwir yn Fesurau’r Cynulliad.

Cyn gwneud Mesurau mewn perthynas â maes penodol o lywodraeth ddatganoledig, bydd angen i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gael ‘cymhwysedd deddfwriaethol’ – yr awdurdod cyfreithiol i basio Mesurau – fesul achos gan Senedd y DU.

Gellir caniatáu cymhwysedd deddfwriaethol naill ai mewn Deddfau Seneddol neu drwy ddefnyddio’r llwybr newydd o “Orchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol” (LCO), ac unwaith y caiff y Cynulliad gymhwysedd deddfwriaethol ar destun gan Senedd y DU, gall ddechrau ar y broses o basio Mesurau’r Cynulliad.

Mwy o wybodaeth ar ddefddwriaeth