Agor gŵyl GWLAD a’r cyfle i ystyried Cymru’r dyfodol

Cyhoeddwyd 25/09/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/09/2019

A ninnau’n profi cyfnod o ddatblygiadau gwleidyddol na’u gwelwyd erioed o’r blaen, nawr yw’r cyfle perffaith i “ystyried dyfodol Cymru a’i democratiaeth”, meddai Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Elin Jones AC, ar ddiwrnod cyntaf GWLAD: Gŵyl Cymru’r Dyfodol.

Yn rhan o amserlen o ddigwyddiadau i nodi 20 mlynedd o ddatganoli, mae’r ŵyl yn cael ei chynnal ym Mae Caerdydd ar 25 - 29 Medi, ac mae'n gymysgedd o adloniant, sgyrsiau a thrafodaethau er mwyn sbarduno dadl ehangach am y Gymru'r ry' ni’n dymuno byw ynddi. O ddiwylliant, chwaraeon, gwleidyddiaeth, cydraddoldeb a democratiaeth mae'r ŵyl yn cynnwys amserlen eang o bynciau a siaradwyr amrywiol.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru hefyd yn esblygu. Mae diwygiadau i gyfansoddiad a system etholiadol y Cynulliad, gan gynnwys gostwng yr oedran pleidleisio i 16 a newid enw, yn gwneud eu ffordd trwy system ddeddfwriaethol y Cynulliad ar hyn o bryd. Mae cynlluniau ar gyfer diwygio pellach, i ehangu maint y Cynulliad a sut mae Aelodau'n cael eu hethol, hefyd yn cael eu trafod.

“Gwthio ffiniau’r dychymyg”

Ar ddiwrnod cyntaf GWLAD, dywedodd Elin Jones AC, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol;

“Mewn cyfnod o’r fath ansicrwydd gwleidyddol, mae GWLAD yn gyfle i adlewyrchu ar yr ugain mlynedd ddiwethaf o ddatganoli ac i wthio ffiniau’r dychymyg wrth i ni ystyried dyfodol Cymru a’i democratiaeth.

“Mae’n destun cyffro ein bod wedi denu enwau adnabyddus megis Charlotte Church a Rhys Ifans, yn ogystal ag ystod o bartneriaid eraill megis Gŵyl y Gelli, Canolfan Llywodraethiant Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.

“Y bwriad wrth gynnal yr ŵyl hon yw torri tir newydd a rhoi cyfle i gynulleidfaoedd amrywiol i gymryd rhan mewn trafodaeth ar sut orau i ddatblygu’r Gymru fodern.

“Rwy’n siŵr y byddwn yn profi penwythnos o sgyrsiau diddorol sy’n herio, yn ysbrydoli ac yn procio’r meddwl, ac rwy’n dymuno’n dda i bawb sy’n cymryd rhan.” 

Rhai o'r siaradwyr fydd i’w clywed ar lwyfan GWLAD yw'r actor Rhys Ifans, y newyddiadurwr Carole Cadwalladr, a'r cewri chwaraeon Colin Charvis a Tanni Grey-Thompson. Bydd y penwythnos o weithgaredd ym Mae Caerdydd yn arwain at dri digwyddiad undydd GWLAD yng Nghaerfyrddin, Caernarfon a Wrecsam ym mis Tachwedd, gyda mwy o fanylion i'w cyhoeddi cyn bo hir.

Cynhelir yr ŵyl ar y cyd â rhestr eang o bartneriaid creadigol a dylanwadol, ac mae amserlen lawn o’r digwyddiadau ar gael ar-lein ar www.datganoli20.cymru/gwlad lle mae modd archebu tocynnau am ddim.