Agor y broses gofrestru i bleidleisio ar gyfer Senedd Ieuenctid newydd i Gymru

Cyhoeddwyd 31/05/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/07/2018

  • ​​Mae pobl ifanc yng Nghymru rhwng 11 a 18 oed yn gymwys i bleidleisio
  • Bydd Senedd Ieuenctid Cymru yn cynnwys 60 aelod
  • Bydd yn rhoi'r hawl i bobl ifanc benderfynu pa faterion sy'n bwysig iddynt, a chodi ymwybyddiaeth o'r materion hynny

Mae'r broses gofrestru bellach ar agor yn swyddogol ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru.

Mae Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi gwahodd pobl ifanc rhwng 11 a 18 oed i gofrestru ar gyfer y bleidlais gyntaf hanesyddol hon, a fydd yn cael ei chynnal ym mis Tachwedd.

Yn Eisteddfod yr Urdd oedd y lansiad, ar faes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, ac roedd pobl ifanc a ddaeth at stondin y Cynulliad ymhlith y cyntaf i gofrestru ar gyfer gwefan newydd Senedd Ieuenctid Cymru, sef www.seneddieuenctid.cymru.

Gall darpar ymgeiswyr gofrestru eu diddordeb i sefyll i gael eu hethol o 3 Medi ymlaen.

Bydd 60 aelod yn cymryd eu lle yn y Senedd pan gynhelir y cyfarfod cyntaf fis Chwefror flwyddyn nesaf. Bydd 40 unigolyn yn cynrychioli 40 etholaeth Cymru, a bydd 20 arall yn cael eu hethol gan bartner-sefydliadau i sicrhau bod grwpiau amrywiol o bobl ifanc yn cael eu cynrychioli.

Bydd tymhorau Senedd Ieuenctid Cymru yn para dwy flynedd, gan roi'r hawl i bobl ifanc benderfynu pa faterion sy'n bwysig iddynt, ynghyd â chodi ymwybyddiaeth o'r materion hynny a dadlau yn eu cylch.

Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru: "Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn ffordd gwbl newydd i bobl ifanc yng Nghymru ddweud eu dweud”.

“Mae eu barn yn bwysig, felly bydd Senedd Ieuenctid Cymru yn sicrhau y clywir eu llais gan y bobl sydd â'r pŵer i newid pethau.

“Rwy'n galw ar bawb yng Nghymru sydd rhwng 11 a 18 oed i gofrestru i bleidleisio, i ddefnyddio eu llais a helpu i wneud newidiadau i wella eu bywyd drwy fforwm democrataidd sydd wedi'i sefydlu'n benodol i gynrychioli eu hanghenion”.

Pleidleisiodd y Cynulliad Cenedlaethol i sefydlu senedd ieuenctid ym mis Hydref 2016, a gofynnwyd am farn mwy na 5,000 o bobl ifanc ledled Cymru.

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol hefyd wedi gweithio'n agos gyda grŵp llywio o sefydliadau ieuenctid sy'n rhoi arweiniad arbenigol ac, yn hanfodol, farn o safbwynt pobl ifanc a gyfrannodd wrth lywio Senedd Ieuenctid newydd i Gymru.

Bydd tîm allgymorth ac addysg ieuenctid y Cynulliad yn cynnal cyfres o weithdai, ymweliadau ag ysgolion a cholegau, sesiynau hyfforddi'r hyfforddwr ac yn darparu adnoddau i fudiadau a sefydliadau gynnal eu digwyddiadau eu hunain.

Bydd rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Senedd Ieuenctid Cymru.

 



Sicrhau bod dy bleidlais yn cyfrif

Bydd dy bleidlais yn penderfynu pwy fydd yn dy gynrychioli di a dy ran di o Gymru yn Senedd Ieuenctid Cymru.

Cofrestru i bleidleisio ›