Ail fersiwn o Fil Cymru - Beth yw eich barn?

Cyhoeddwyd 27/06/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/07/2016

​Mae'r fersiwn ddiweddaraf o Fil Cymru, a fydd yn diffinio pa bwerau a fydd gennym yma a sut y bydd y wlad yn cael ei rhedeg, yn cael ei archwilio gan un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Dros Dro yn gofyn i bobl am eu barn am y cynigion sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd gan Senedd y DU.

Edrychwyd yn fanwl ar fersiwn ddrafft o'r Bil gan ragflaenydd y Pwyllgor, ac mae llawer o'r sylwadau a'r pryderon a godwyd ganddo wedi'u cynnwys yn y fersiwn ddiweddaraf hon.

Dywedodd David Melding AC, Cadeirydd y Pwyllgor: "Mae'r Bil hwn yn bwysig iawn a bydd yn gosod y fframwaith ar gyfer gwneud cyfreithiau yng Nghymru a fydd yn effeithio ar ei dinasyddion dros y blynyddoedd nesaf.

"Ar ôl cynifer o Ddeddfau blaenorol, mae'n hanfodol bod y Bil hwn yn gywir. Felly, hoffem glywed barn cynifer o bobl â phosibl o bob rhan o'r gymdeithas yng Nghymru i helpu gyda'r broses honno.

"Mae ein cylch gorchwyl ar gyfer y gwaith wedi'i seilio ar gasgliadau adroddiad y pwyllgor a oedd yn ein rhagflaenu ar Fil Cymru drafft.

"Mae gennym ddiddordeb i glywed i ba raddau y mae pobl yn ystyried fod y Bil hwn yn welliant ar y drafft blaenorol, a hefyd i ba raddau y bydd yn darparu'r setliad clir, cydlynol ac ymarferol y mae ei angen ar Gymru."

Galwodd rhagflaenydd y Pwyllgor, ymhlith argymhellion eraill, am:

  • Gael gwared ar y prawf angenrheidrwydd neu ei gyfnewid am brawf sy'n seiliedig ar briodoldeb;

  • Cael system i'w gwneud yn ofynnol i gael cydsyniad Gweinidogion y Goron, sy'n adlewyrchu'r model yn Neddf yr Alban 1998;

  • Gostyngiad sylweddol o ran nifer y cymalau cadw a'r cyfyngiadau penodol a'u heffaith;

  • Gael awdurdodaeth ar wahân lle byddai Deddfau Cymru yn gymwys i Gymru yn unig; 

Gall unrhyw un sy'n dymuno cyfrannu at yr ymchwiliad anfon neges e-bost at PwyllgorMCD@cynulliad.cymru, neu ysgrifennu at:

Clerc y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA

Mwy o wybodaeth: Bil Cymru Llywodraeth y DU

Gallwch hefyd ein dilyn ar Twitter: @SeneddMCD