All Cymru ddim mentro colli cenhedlaeth o artistiaid

Cyhoeddwyd 05/06/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/12/2020   |   Amser darllen munudau

​Gallai Cymru golli cenhedlaeth gyfan o artistiaid a dadwneud blynyddoedd o waith a buddsoddiad cadarnhaol oni fydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gefnogi'r sector celfyddydau a diwylliant trwy gyfnod y coronafeirws a thu hwnt.


Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi dweud wrth Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Senedd y gallai fod hyd at flwyddyn cyn y gall theatrau a lleoliadau cyngerdd ailagor yn llawn unwaith eto.

Mae cronfa wytnwch gwerth £7.5 miliwn wedi'i sefydlu i gefnogi sefydliadau ac mae Cyngor Celfyddydau Cymru eisoes wedi cael cannoedd o geisiadau sydd, gyda'i gilydd, yn werth mwy na £4 miliwn. Dim ond tan fis Medi y disgwylir i'r gronfa barhau.

Dywedodd Cyngor Celfyddydau Cymru fod y sefydliadau celfyddydol y mae'n eu hariannu yn colli tua £1.4 miliwn yr wythnos yn sgil cau lleoliadau a chanslo perfformiadau. Gallai Canolfan Mileniwm Cymru yn unig golli £20 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Hefyd, mae llawer o artistiaid a sefydliadau nad ydyn nhw'n gymwys i gael y cymorth ariannol a ddarperir gan Lywodraeth y DU.

Dywedodd Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, wrth aelodau'r Pwyllgor fod llawer o artistiaid yn llithro drwy'r rhwyd:

"Dyma'r dalent ifanc y mae ein dyfodol yn dibynnu arnyn nhw, sy'n cael eu rhwystro ar y cyfle cyntaf rhag cael troed ar ris yr ysgol. Felly, rydyn ni'n edrych yn arbennig o ofalus ar y grwpiau hyn o bobl, sy'n mynd i lithro drwy'r rhwyd o ran yr hyn y gall cynlluniau cymorth Llywodraeth y DU ei gynnig."

Mae'r Pwyllgor am i Lywodraeth Cymru lobïo Llywodraeth y DU i ymestyn ac ychwanegu hyblygrwydd at ei chymorth incwm i bobl hunangyflogedig, a'i chynlluniau cadw swyddi.

Mae hefyd eisiau gweld sgyrsiau yn cychwyn rhwng Llywodraeth Cymru a sefydliadau celfyddydol i osod cyfeiriad polisi tymor hir sy'n gynaliadwy, yn gynhwysol ac yn hygyrch.



 

Sut y mae’r coronafeirws wedi effeithio ar y celfyddydau, diwylliant a’r diwydiannau creadigol yng Nghymru?

Rhannwch eich barn >

 


 


Yn ôl Cadeirydd Dros Dro y Pwyllgor, Helen Mary Jones AS:

"Mae sector y celfyddydau wedi ei andwyo'n ddirfawr gan effaith economaidd y coronafeirws ac mae llawer o sefydliadau a phobl wedi colli eu hincwm dros nos.

"Mae celf yn brofiad a rennir rhwng artistiaid, perfformwyr a chynulleidfaoedd, ond dywedwyd wrth y Pwyllgor y gallai fod cyhyd â blwyddyn cyn y gall theatrau, neuaddau cyngerdd a lleoliadau eraill y celfyddydau ailagor yn llawn.

"Allwn ni ddim mentro colli cenhedlaeth o artistiaid na rhoi'r gorau i'r holl waith a buddsoddiad cadarnhaol sydd wedi'i wneud i sicrhau bod Cymru yn arweinydd byd-eang o ran y celfyddydau a diwylliant.

"Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i weithredu'n gyflym i gefnogi'r rhan bwysig hon o fywyd Cymru."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud tri argymhelliad yn ei adroddiad:

  1. Dylai Llywodraeth Cymru lobïo Llywodraeth y DU i roi pwysau arni i:
  • Ymestyn y Cynllun Cymorth Incwm i'r Hunangyflogedig y tu hwnt i fis Mai 2020 ac ymestyn y Cynllun Cadw Swyddi y tu hwnt i fis Hydref 2020;
  • Adolygu'r Cynllun Cymorth Incwm i'r Hunangyflogedig i sicrhau nad oes unrhyw weithwyr llawrydd yn syrthio drwy'r rhwyd gan nad ydynt yn gymwys i fod yn rhan o'r cynllun.
  1. Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu gweithgor digwyddiadau ac adloniant er mwyn:
  • cydweithio â Thasglu Adnewyddu Diwylliannol Llywodraeth y DU;
  • paratoi canllawiau ar ailagor lleoliadau a pherfformiadau  byw a busnesau cysylltiedig i'w cyhoeddi  erbyn 1 Awst 2020;
  • cydnabod y posibilrwydd na fydd ein prif sefydliadau celfyddydol yn broffidiol eto am rai blynyddoedd a bod yn barod i ymestyn yr arian cyhoeddus angenrheidiol i sicrhau eu parhad.
  1. Er mwyn adnewyddu a chynnal y sector, dylai Llywodraeth Cymru ddechrau sgwrsio â chynrychiolwyr o'r sector celfyddydau i bennu trywydd polisi hirdymor sy'n gynaliadwy, yn gynhwysol ac yn hygyrch.

Bydd canfyddiadau'r adroddiad yn cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn parhau i edrych ar effaith Covid-19 mewn meysydd sydd o fewn ei gylch gwaith.

Mae galwad am dystiolaeth yn dal i fod ar agor i bobl fynegi barn wrth yr Aelodau, ac i ddweud wrthynt am eu profiadau a'u syniadau. Mae rhagor o fanylion ar dudalennau gwe a sianeli cyfryngau cymdeithasol y Pwyllgor.

Bydd adroddiad nesaf y Pwyllgor yn edrych ar yr effaith ar chwaraeon yng Nghymru ac yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach y mis hwn.

 


 

Dweud eich dweud

Sut y mae’r coronafeirws wedi effeithio ar y celfyddydau, diwylliant a’r diwydiannau creadigol yng Nghymru?

Rhannwch eich barn >