Angen adolygiad er mwyn ymchwilio i ddiwygiadau lladd-dai yng Nghymru – meddai adroddiad pwyllgor

Cyhoeddwyd 03/06/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Angen adolygiad er mwyn ymchwilio i ddiwygiadau lladd-dai yng Nghymru – meddai adroddiad pwyllgor

3 Mehefin 2010

Mae adroddiad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru wedi galw am adolygu sut mae deddfwriaeth sy’n llywodraethu lladd-dai yn cael ei roi ar waith yng Nghymru.

Cynhaliodd yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig trawsbleidiol ymchwiliad i les anifeiliaid a hylendid cig ac mae heddiw’n cyflwyno’i ganfyddiadau.

Mae’r Pwyllgor yn pryderu’n arbennig am fygythiad i’r cymorthdaliadau sydd ar hyn o bryd yn cael eu darparu i ladd-dai Cymru gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA).

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd am ddiddymu’r cymorthdaliadau hyn yn raddol yn y dyfodol agos ac mae’n aneglur a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i’w hamnewid neu i ddarparu cronfa wrth gefn er mwyn cefnogi’r diwydiant wedi iddynt ddod i ben.

“Roedd y dystiolaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn awgrymu y byddai pob un ond tri o ladd-dai Cymru’n diflannu os na fydd y cymorthdaliadau hyn yn parhau rywsut neu’i gilydd,” meddai Rhodri Glyn Thomas, Cadeirydd yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig .

“Hefyd clywsom gan ffermwyr sy’n pryderu y bydd unrhyw gostau ychwanegol o geisio ymateb i’r bwlch mewn cymorthdaliadau yn cael ei drosglwyddo iddynt hwy.

“’Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i sefydlu grwp adolygu gydag aelodau o bob rhan o’r diwydiant cig er mwyn ymchwilio i ddeddfwriaeth ac unrhyw ddiwygiadau posibl o fewn fframwaith presennol yr UE.

“Mae’n rhaid i ni sicrhau bod y safonau uchaf o les anifeiliaid a hylendid cig yn cael eu cyflenwi yn y ffordd fwyaf effeithiol, tra’n bod yn amddiffyn rhwydwaith Cymru o ladd-dai bach a chanolig.”

Mae’r Pwyllgor yn gwneud 8 argymhelliad yn ei adroddiad sef:

- Bod Llywodraeth Cymru’n defnyddio pob dull a modd sydd ganddi i atal yr Asiantaeth Safonau Bwyd rhag rhoi dull o adfer costau llawn ar waith a diddymu ei gymhorthdal i’r diwydiant nes bod dull amgen o roi cymhorthdal tuag at gost rheolaethau wedi’i rhoi mewn lle.

- Bod Llywodraeth Cymru’n datblygu dull o roi cymhorthdal i’r diwydiant a fydd yn diogelu dyfodol lladd-dai Cymru, gyda’r cymorth yn cael ei flaenoriaethu ar gyfer sefydliadau bach a chanolig sy’n cyflenwi marchnadoedd lleol.

- Bod Llywodraeth Cymru’n ymchwilio i’r posibilrwydd o ddatganoli’r cyfrifoldeb am orfodi lles anifeiliaid a deddfwriaeth hylendid cig mewn perthynas ag anifeiliaid sydd i’w lladd iddi hi, ac i ofyn am drosglwyddo pwerau o Lywodraeth y DU pe bai adolygiad Llywodraeth Cymru’n canfod y byddai symudiad o’r fath yn fanteisiol.