Angen adolygu grantiau yn gyflymach, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 01/08/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Angen adolygu grantiau yn gyflymach, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

01 Awst 2012

Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob cynllun grant wedi cael ei adolygu i sicrhau bod y rhain yn cyflawni amcanion Gweinidogion erbyn diwedd 2013 yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Er bod y Pwyllgor yn croesawu gwaith Llywodraeth Cymru i adolygu ei rhaglenni grant ac er ei fod yn cydnabod bod risgiau wrth adolygu’n rhy gyflym, mae’n credu bod angen i’r broses hon ddigwydd yn gyflymach o lawer.

Mae hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried yr ystod eang o opsiynau ariannu wrth adolygu effeithiolrwydd y grantiau presennol.

Yn ystod ei ymchwiliad i faterion sy’n codi o adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, ‘Rheoli Grantiau yng Nghymru 2011’, clywodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus bod cyrff cyhoeddus Cymru yn dyfarnu grantiau sy’n dod i gyfanswm o dros £2 biliwn bob blwyddyn.

Clywodd hefyd fod Cymru’n defnyddio arian grant penodol yn fwy helaeth na rhannau eraill o’r DU.

Er ei fod yn cydnabod gwerth grantiau ac yn ystyried eu bod yn werthfawr o ran cyflawni amcanion y Gweinidogion, yn yr adroddiad interim hwn, mae’r Pwyllgor yn galw am leihau nifer cyffredinol y grantiau yng Nghymru.

Yn dilyn cyhoeddi adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, codwyd pryderon penodol mewn perthynas â rheoli grantiau a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i Gymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan (AWEMA).

Ar hyn o bryd, mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnal ymchwiliad i’r modd y gwnaeth Llywodraeth Cymru reoli ei pherthynas ag AWEMA. Er bod tystiolaeth yn ymwneud â'r mater hwn wedi codi yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor, nid yw’n thema benodol yn yr adroddiad interim hwn.

Rhagwelir y bydd tystiolaeth o’r fath, ynghyd ag adroddiad ymchwiliad Swyddfa Archwilio Cymru ac unrhyw ymchwiliadau perthnasol eraill, yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor cyn iddo benderfynu ar ei adroddiad terfynol ar reoli grantiau yn ddiweddarach eleni.

Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Rhoddodd adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar reoli grantiau gipolwg amserol a buddiol inni ar ddefnydd Cymru o grantiau fel ffynonellau ariannu.

“Mewn cyfnod o galedi economaidd, mae’n hanfodol bod Cymru’n cael y gorau o bob punt o arian cyhoeddus sy’n cael ei wario.

“Mae ein hadroddiad interim yn nodi 15 o argymhellion a fydd yn gwella’r broses o reoli grantiau yng Nghymru, yn ein barn ni. Rydym yn teimlo ei bod yn briodol i Lywodraeth Cymru ystyried yr argymhellion hyn nawr.”

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a chopi o’r adroddiad yma.