Angen am hyrwyddwr bwyd er mwyn hybu’r diwydiant bwyd yng Nghymru

Cyhoeddwyd 21/07/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Angen am hyrwyddwr bwyd er mwyn hybu’r diwydiant bwyd yng Nghymru

Mae gormod o strategaethau bwyd gan Lywodraeth Cymru yn llesteirio’r gwaith o gynhyrchu a hybu bwyd yng Nghymru yn ôl Is-bwyllgor Datblygu Gwledig Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac maent yn galw am benodi Hyrwyddwr Bwyd Cymru i oruchwylio a chydlynu’r agenda hybu bwyd yng Nghymru.

Dyma un o brif argymhellion yr adroddiad i’w ymchwiliad i gynhyrchu a hybu bwyd yng Nghymru a gaiff ei gyhoeddi heddiw (21 Gorffennaf).

Yn ystod yr ymchwiliad, clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan NFU Cymru fod yr agenda fwyd wedi colli momentwm ers i Awdurdod Datblygu Cymru ddod yn rhan o Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Alun Davies, AC. Cadeirydd y Pwyllgor: “Rydym yn derbyn mai bwriad y Gweinidog a’i swyddogion yw bod yr holl strategaethau a pholisïau’n cydweddu i ddarparu fframwaith cydlynol.”

“Er hynny, rydym yn pryderu y gallai sefydliadau allanol ddehongli hyn fel diffyg cydlyniant a chydweithio.”

“Roedd yr honiadau o ran colli arbenigedd hefyd yn peri pryder i ni.”

“Ar un adeg, y farn oedd bod Llywodraeth Cymru yn arwain o ran arloesedd, cymorth a datblygiad a chredwn bellach, fod angen polisi cydlynol llawn ar gyfer hybu bwyd Cymru i adfer y sefyllfa honno.”

Rhai o argymhellion allweddol eraill yr adroddiad yw:

  • Roedd y Pwyllgor o’r farn y dylai’r nod o adeiladu system bwyd cynaliadwy fod wrth graidd strategaeth gyffredin newydd Bwyd a Diod o Gymru Llywodraeth Cymru, i gydbwyso heriau cynhyrchu bwyd, anghenion ynni a diogelu’r amgylchedd.

  • Dylai llywodraeth Cymru weithio gyda’r diwydiant ar y cyfle cyntaf posibl i baratoi ar gyfer newid ar ôl 2013.

Dylai’r Gweinidog sicrhau bod anghenion Cymru’n cael eu cynrychioli’n llawn pan fydd Ombwdsmon Prydain yn cael ei sefydlu, gan gynnwys darparu gwasanaeth cwbl ddwyieithog ar gyfer Cymru.

Dylai’r Gweinidog gynrychioli anghenion cynhyrchwyr a defnyddwyr Cymru’n llawn, a mynegi pryderon a godir ynghylch tarddle cynnyrch Cymru, a’r gallu i’w olrhain, yn y trafodaethau parhaus ar labelu gwlad tarddiad ar lefel Ewrop

Caiff yr adroddiad ei lansio yn stondin Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Sioe Frenhinol Cymru ar ôl cyfarfod ffurfiol o’r Pwyllgor. Yn ystod y cyfarfod, bydd y Pwyllgor yn holi Elin Jones AC, y Gweinidog dros Faterion Gwledig ar y strategaeth materion gwledig – “Ffermio, Bwyd a Chefn Gwlad – Creu Dyfodol Cadarn”.

Cynhelir y cyfarfod yn gyhoeddus rhwng 1.45pm a 2.30pm er na fydd cyfle i’r cyhoedd ofyn cwestiynau ar hyn o bryd.