Angen asiantaeth i gynnwys pawb er mwyn cau’r bwlch llifogydd

Cyhoeddwyd 11/02/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Angen asiantaeth i gynnwys pawb er mwyn cau’r bwlch llifogydd

11 Chwefror 2010

Dylid cael un sefydliad er mwyn helpu i ddod â’r dryswch a’r diflastod a achosir gan lifogydd yng Nghymru i ben, yn ôl adroddiad newydd gan Bwyllgor Cynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Canfu ei ymchwiliad fod y cyhoedd ac awdurdodau lleol a chenedlaethol, yn aml, yn ansicr ynghylch pwy sy’n gyfrifol am ymdrin â gwahanol fathau o lifogydd.

Cynhaliodd y Pwyllgor gyfarfodydd cyhoeddus ar draws Cymru i gael hanesion personol am effeithiau llifogydd ar gartrefi a chymunedau.  Dangosodd rhywfaint o’r dystiolaeth gartrefi a oedd wedi’u difetha gan garthffosiaeth yn gorlifo a phobl yn methu â chael yswiriant cartref oherwydd bod y risg yn eu hardal yn cael ei hystyried yn rhy uchel.  

Canfu’r Pwyllgor y gall llifogydd gael effaith andwyol ar gartrefi, bywoliaeth a chymunedau pobl, a gall bara am flynyddoedd ar ôl i’r dŵr gilio.

Cyfarfu’r Pwyllgor ag aelodau o’r cyhoedd a oedd yn parhau i fethu â siarad am eu profiadau ddwy neu dair blynedd ar ôl y llifogydd oherwydd eu profiadau poenus.  

Canfu’r Pwyllgor mai’r cyfan oedd y bobl hyn yn ei ddymuno oedd cael gwybodaeth a chanllawiau clir a chefnogaeth cyn, yn ystod ac wedi’r llifogydd.

Mae adroddiad y Pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i sefydlu corff pwrpasol er mwyn helpu i ddod â’r dryswch hwn i ben.

Roedd tystiolaeth a gyflwynwyd gan Fforwm Llifogydd Cenedlaethol hefyd yn awgrymu diffyg ffydd yn Asiantaeth yr Amgylchedd.  Derbyniodd gwynion gan bobl yn honni iddynt dderbyn ychydig iawn o ganllawiau gan staff yr Asiantaeth a dim adborth ar ôl rhoi gwybod am broblemau a materion. Cafodd mapiau llifogydd Asiantaeth yr Amgylchedd hefyd eu beirniadu am eu bod naill ai’n wallus neu rhy hen i’w defnyddio.

Mae argymhellion y Pwyllgor yn cynnwys y canlynol:

  • Cred y Pwyllgor y gallai mwy o gydweithio rhwng pobl sy’n byw mewn ardaloedd lle ceir perygl o lifogydd fod yn hanfodol o ran sefydlu dull mwy manwl gywir o ragweld llifogydd a’u hatal yn y dyfodol.  

  • Mae angen cyfathrebu llawer mwy clir rhwng y cyhoedd, awdurdodau lleol, asiantaethau a chyrff llywodraethu.

  • Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru’n canfod ac yn ariannu asiantaeth /sefydliad i fod yn bwynt cyswllt unigol neu’n ‘siop un alwad’ ar gyfer pob ymholiad sy’n ymwneud ag achosion o lifogydd a chyngor ar lifogydd.

  • Mae’r Pwyllgor yn argymell bod y Gweinidog yn ei gwneud yn ofynnol i Asiantaeth yr Amgylchedd gynnwys y gymuned wrth ddatblygu mapiau llifogydd newydd a chyhoeddi tystiolaeth ar sut y caiff y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio.

  • Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Asiantaeth yr Amgylchedd yn diweddaru’ i strategaeth gyfathrebu, yn dilyn cyfnod o ymgynghori cyhoeddus, er mwyn nodi’n glir rôl yr Asiantaeth, sefydliadau cyhoeddus a sefydliadau eraill sydd â diddordeb yn y mater, o ran ymgysylltu â’r cyhoedd.  

  • Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru, drwy weithio gyda chydweithwyr yn Asiantaeth yr Amgylchedd, ac Awdurdodau Lleol yn darparu’r adnoddau angenrheidiol er mwyn sefydlu Fforwm Llifogydd Cymru, yn debyg i’r hyn sydd gan yr Alban.

  • Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru’n gweithio gydag Ymatebwyr Cyntaf a’r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol er mwyn canfod nifer o opsiynau ar gyfer ymateb i achosion o lifogydd.

Y Pwyllgor Cynaliadwyedd