Angen bod yn fwy effeithiol o ran trechu tlodi yng Nghymru, yn ôl ymchwiliad gan y Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 18/06/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/07/2015

Mae Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi mynegi pryderon difrifol am y diffyg cynnydd o ran lleihau tlodi yng Nghymru, er gwaethaf ymrwymiad a buddsoddiad hirdymor gan Lywodraeth Cymru. Mae'r Pwyllgor o'r farn bod hyn yn bennaf oherwydd bod y Llywodraeth yn ceisio trin symptomau tlodi yn hytrach na mynd i'r afael â'i achosion sylfaenol.

Oherwydd y newidiadau i'r farchnad lafur, nid yw gweithio bellach yn ffordd syml allan o dlodi. Mae'r Pwyllgor wedi argymell, am fod hanner y bobl sy'n byw mewn tlodi yn byw ar aelwydydd sy'n gweithio, y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei dylanwad ar y rhan honno o'r farchnad lafur lle mae'r sgiliau'n isel er mwyn gwella ansawdd bywyd pobl sy'n dioddef tlodi mewn gwaith.

Dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol:

"Rydym yn pryderu'n fawr am nifer y bobl yng Nghymru sy'n dioddef tlodi. Rydym wedi gwneud argymhellion pwysig i Lywodraeth Cymru am yr angen i wneud ymrwymiad i sicrhau bod gan bawb fwyd, lloches a chynhesrwydd, sef eu hanghenion dynol sylfaenol.

"Mae'r Pwyllgor hefyd o'r farn bod angen i Lywodraeth Cymru fod yn fwy atebol am leihau tlodi yng Nghymru, a bod angen iddi wrando ar brofiadau pobl o dlodi a llunio polisïau sy'n seiliedig ar yr hyn sy'n gweithio orau i unigolion, gan ystyried anghenion, nodweddion ac amgylchiadau gwahanol. Un o'n hargymhellion yw sefydlu Cynghrair Lleihau Tlodi Cymru, i ddwyn ynghyd rhanddeiliaid allweddol i ddatblygu atebion arloesol er mwyn lleihau tlodi."

Mae'r Pwyllgor wedi cyhoeddi ei adroddiad (PDF, 807KB) a crynodeb o'i gasgliadau a'i argymhellion (PDF, 364KB) ar Dlodi yng Nghymru: Tlodi ac Anghydraddoldeb