Angen cryfhau Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 21/03/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Angen cryfhau Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

21 Mawrth 2014

Mae angen cryfhau rôl Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) fel rheoleiddiwr y GIG, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn credu bod angen cymorth ychwanegol ar AGIC – y sefydliad sy’n gyfrifol am arolygu ysbytai, meddygfeydd, deintyddion a darparwyr gofal iechyd annibynnol yng Nghymru – i’w helpu i gyflawni’i amryfal gyfrifoldebau.

Cred y Pwyllgor nad yw rôl a diben AGIC wedi’u diffinio’n glir yn bennaf oherwydd bod ei phwerau’n dod o amrywiaeth o ddeddfwriaeth, gyda gwahanol gyfrifoldebau yn dod o wahanol fannau. Daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod y diffyg eglurder hwn yn llesteirio ymdrechion yr arolygiaeth i fod yn rheoleiddiwr awdurdodol, ac yn ei wneud yn anodd iddi ddangos ei bod yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru yn yr un modd ag y gall sefydliadau eraill – gan gynnwys Estyn, yr arolygiaeth ysgolion.

Mae’r Pwyllgor yn amlygu ei bryderon ynghylch y cyfyngiadau o ran capasiti sy’n wynebu’r arolygiaeth ar hyn o bryd, ac sy’n ei hatal rhag cyflawni ei gwaith ar draws ei hystod lawn o swyddogaethau.

Dechreuodd y Pwyllgor ei ymchwiliad yn dilyn canfyddiadau’r ymchwiliad cyhoeddus i Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Canolbarth Swydd Stafford o dan gadeiryddiaeth Robert Francis QC.

Dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, “Roedd y Pwyllgor eisiau cael sicrwydd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru fod safonau o fewn y GIG yn cael eu bodloni”.

“Yr hyn y gwnaethom ei ganfod yw sefydliad sy’n cael trafferth yn diffinio’i ddiben ei hun a cheisio rheoli cyfrifoldebau a ddaw o jig-so cymhleth o ddeddfwriaeth.

“Credwn fod hyn yn cael effaith ar ymdrechion AGIC i fod yn rheoleiddiwr awdurdodol ar ysbytai, meddygfeydd, deintyddion a darparwyr gofal iechyd preifat yng Nghymru.


Rydym, felly, yn argymell bod adolygiad sylfaenol o AGIC yn cael ei gynnal, gyda’r bwriad o gryfhau’r gyfundrefn arolygu a rheoleiddio yng Nghymru.

“Dylid gwneud hyn ar frys, a gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn ein casgliadau.”