Angen cyfraith gynllunio newydd i ateb anghenion unigryw Cymru

Cyhoeddwyd 27/01/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Angen cyfraith gynllunio newydd i ateb anghenion unigryw Cymru

27 Ionawr 2011

Mae ar Gymru angen ei chyfraith gynllunio ei hun i ateb ei hanghenion unigryw, yn ôl adroddiad newydd gan Bwyllgor Cynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae’r adroddiad, gan y grŵp trawsbleidiol o Aelodau’r Cynulliad, yn datgan bod y prosesau cynllunio yng Nghymru a’r rheini yn Lloegr mor wahanol nes bod angen deddfwriaeth unigryw yng Nghymru er mwyn cyfuno polisi cyfredol a gwella’r systemau i Gymru.

Mae’n argymell cael cyfraith newydd sydd wedi’i seilio ar “system sy’n dilyn y cynllun” – lle mae awdurdodau lleol yn paratoi cynlluniau datblygu penodol ar gyfer eu hardaloedd, sy’n gweithredu fel pwynt cyfeirio ar gyfer penderfyniadau cynllunio yn y dyfodol i sicrhau cysondeb.

Roedd y dystiolaeth a gafodd y Pwyllgor yn dangos bod problemau mewn nifer o feysydd, gan gynnwys yr anawsterau y mae cynllunwyr yn eu hwynebu wrth reoli blaenoriaethau a pholisïau cymdeithasol, economaidd a chynaliadwyedd amgylcheddol.       

Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi sylw i’r pwysau y mae swyddogion cynllunio lleol yn ei wynebu wrth ateb y galw cynyddol sydd arnynt sy’n ei gwneud yn ofynnol bod ganddynt fwy o arbenigedd technegol.               

I oresgyn hyn, mae’r Pwyllgor yn argymell y dylid rhannu arbenigedd yn fwy effeithiol gan gynnwys darparu gwell hyfforddiant ar gyfer swyddogion awdurdodau cynllunio i sicrhau bod ganddynt y gallu digonol i wneud penderfyniadau cytbwys.

Dywedodd Kirsty Williams AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Ychydig o feysydd polisi sy’n cael effaith mor eang â’r maes cynllunio. O ddatblygu cynaliadwy, adfywio economaidd a pholisi ynni i drafnidiaeth, bioamrywiaeth a thai, mae systemau cynllunio yn chwarae rhan ganolog o ran sut y caiff polisïau eu darparu ar lawr gwlad.”

“Roedd yn galondid i’r Pwyllgor ganfod bod llawer o’r hyn sy’n digwydd mewn polisi cynllunio ar hyn o bryd yn gweithio’n dda, ond mae’n amlwg bod angen gwneud newidiadau mewn rhai meysydd.                  

“Clywsom dystiolaeth eang gan y rhai sy’n gweithredu’r systemau cynllunio, y rhai sy’n cyflwyno cynigion ar gyfer eu datblygu a’r rhai y mae polisi a’r penderfyniadau a wneir yn effeithio arnynt.

“Felly, mae ein 30 o argymhellion wedi’u seilio ar dystiolaeth helaeth gan y bobl sy’n darparu’r systemau cynllunio a’r rhai y maent yn effeithio arnynt, ac mae’r Pwyllgor yn gobeithio y bydd camau’n cael eu cymryd fel y gall Cymru gael system gynllunio flaengar sydd wedi’i theilwra ar gyfer y dyfodol.”

Y Pwyllgor Cynaliadwyedd