Angen cyfraith newydd i reoleiddio salonau lliw haul sy’n gweithio ar arian parod
11 Tachwedd 2009
Dylai Llywodraeth Cymru geisio pwerau deddfu gan San Steffan yn ddi-oed er mwyn ei galluogi i wahardd salonau lliw haul heb oruchwyliaeth sy’n gweithio ar arian parod.
Dyna farn Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r Pwyllgor hefyd yn galw ar y Llywodraeth i wahardd pobl dan 18 oed rhag defnyddio salonau lliw haul.
Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Serch bod tystiolaeth yn awgrymu y gall gwelyau haul achos canser y croen, mae’n ymddangos nad yw salonau lliw haul yn cael eu rheoleiddio’n effeithiol.”
“Er bod hunanreoleiddio o fewn y diwydiant i’w groesawu, nid yw wedi atal y straeon arswyd sydd wedi digwydd yma yng Nghymru lle mae plant mor ifanc â deng mlwydd oed wedi’u llosgi’n ddifrifol drwy ddefnyddio salonau heb oruchwyliaeth.
“Rhaid gwarchod pobl ifanc rhag peryglon salonau heb oruchwyliaeth yn y dyfodol.”
Yn dilyn ymchwiliad tri mis, pan glywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y diwydiant salonau lliw haul, elusennau canser a’r Gweinidog dros iechyd, penderfynodd y Pwyllgor:
bod tystiolaeth gref sy’n awgrymu bod defnyddio gwelyau haul yn achosi canser y croen;
er nad yw’r dos lleiaf o driniaeth haul yn gwbl ddiogel, plant a phobl ifanc yn benodol sydd mewn perygl;
nad yw cyfreithiau presennol yn diogelu pobl, ac yn enwedig plant a phobl ifanc rhag camddefnyddio salonau.
Crynodeb o’r argymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru geisio’r hawl i ddeddfu er mwyn gallu rheoleiddio, trwyddedu, ac os yw’n angenrheidiol, cosbi cyfleusterau gwelyau haul a’u gweithredwyr.
Dylai’r cyfreithiau hyn fod yn seiliedig ar awgrymiadau adroddiad y Pwyllgor ar Agweddau Meddygol ar Belydriad yn yr Amgylchedd (COMARE), ‘The health effects and risks arising from exposure to ultraviolet radiation from tanning devices’.
Dylai’r gyfraith newydd:
wahardd pobl dan 18 oed rhag eu defnyddio;
annog grwpiau risg uchel eraill i beidio â’u defnyddio;
sicrhau bod y cyfleusterau’n cael eu goruchwylio’n llawn amser gan staff profiadol;
sicrhau bod yn rhaid defnyddio offer i ddiogelu’r llygaid;
sicrhau bod gwybodaeth sy’n amlinellu’r peryglon iechyd o ddefnyddio gwelyau haul yn cael ei harddangos yn glir a’i rhoi i’r holl ddefnyddwyr;
gwahardd honiadau na ellir eu profi bod manteision i iechyd;
sicrhau bod cleientiaid yn rhoi eu caniatâd ar sail penderfyniad cytbwys cyn defnyddio’r peiriannau; a
sicrhau nad yw salonau’n defnyddio gwelyau haul nad ydynt yn cydymffurfio â’r Safonau Prydeinig ac Ewropeaidd ar lefelau arbelydrau gwelyau haul.
Gofynnodd y Pwyllgor hefyd i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i:
Edrych i weld a yw unrhyw honiadau gan weithredwyr gwelyau haul ynglyn â buddion iechyd defnyddio gwelyau haul yn mynd yn groes i’r deddfau masnachu a hysbysebu presennol.
Cynyddu’r gyllideb a roddir i ymgyrch SunSmart, yn enwedig mewn perthynas â phobl ifanc. Mae SunSmart yn rhybuddio pobl am beryglon goramlygrwydd i belydrau uwchfioled gan yr haul neu welyau haul.