Angen cyfreithiau cliriach, gwell ar Gymru, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 08/10/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/10/2015

 

 

Mae angen i gyfreithiau a wneir yng Nghymru fod yn fwy clir, bod gwaith craffu llawn wedi'i wneud arnynt ac ni ddylid cyfyngu arnynt gan waith datblygu polisi anghyflawn neu wael, yn ôl Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol.

Roedd y Pwyllgor yn falch o weld barn gyffredin ymysg pawb a gyfrannodd at yr ymchwiliad bod deddfwriaeth yn eiddo i'r dinesydd ac, o'r herwydd, dylai rhanddeiliaid deimlo eu bod yn chwarae mwy o ran yn y ddeddfwriaeth honno. Er hynny, nid yw'r ffaith bod ymgynghori yn rhan mor amlwg o lywodraeth fodern, o reidrwydd yn golygu bod ymgynghori yn cael ei ystyried yn ddull effeithiol o ddylanwadu ar y gwaith o ddatblygu polisi deddfwriaethol. 

Mae'r Pwyllgor yn tynnu sylw at y fantais o graffu cyn deddfu, am ei fod yn gyfle i Lywodraeth Cymru fodloni'r Cynulliad bod cynnig yn barod i gael ei gyflwyno fel Bil; mae hefyd yn gyfle i randdeiliaid gyfrannu'n gynnar at y broses o ddatblygu polisi.

 

Mae'n tynnu sylw at enghreifftiau lle mae Biliau fframwaith wedi cael eu cyflwyno, lle nad oes digon o fanylion yn cael eu rhoi ar wyneb y Bil ond y cânt, yn hytrach, eu hychwanegu drwy is-ddeddfwriaeth, yn aml ar ffurf rheoliadau nad ydynt yn ddarostyngedig i'r un safon o ran craffu â'r Bil ei hun.

Codwyd pryderon hefyd ynghylch faint o amser a chyfle a roddir i bwyllgorau'r Cynulliad edrych yn fanwl ar Filiau. Deddfwrfa un siambr yw'r Cynulliad Cenedlaethol, sy'n golygu bod deddfau yn cael eu harchwilio a'u trafod mewn un siambr. Bydd Biliau yn Senedd y DU yn cael eu hystyried gan Dŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi, sy'n caniatáu ar gyfer craffu llawer mwy manwl.

Felly, mae'r Pwyllgor yn credu y byddai ychwanegu Cyfnod Adroddiad gorfodol yn ychwanegu gwerth at y broses o graffu, ac yn arwain at welliannau o ran ansawdd y gyfraith a gaiff ei llunio gan y Cynulliad. 

Yn olaf, mae'r Pwyllgor yn credu y dylai cyfreithiau fod yn haws i'w deall, gydag iaith glir, yn enwedig o ran Memorandwm Esboniadol y Bil, y dylent gyfuno'r Llyfr Statud i Gymru, sy'n golygu nad yw deddfwriaeth mewn maes penodol yn cael ei lledaenu ar draws deddfau lluosog, a'i bod yn hawdd cael gafael ar ddeddfwriaeth. Ar hyn o bryd mae'n credu bod bwlch rhwng yr hyn sydd ar gael yn fasnachol a'r hyn y gall y cyhoedd yn gyffredinol ei weld.

 

Dywedodd David Melding AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: "Mae parch tuag at y broses ddeddfu yn allweddol i reolaeth y gyfraith.

"Gyda digwyddiadau fel Cytundeb Dydd Gŵyl Dewi a'r Bil Cymru sydd ar y gweill yn Llundain, mae'r gwahaniaethau deddfwriaethol rhwng Cymru a gweddill y DU yn dod yn fwy a mwy amlwg.

"Mae'n hanfodol felly bod yr amser a'r offer ar gael gan y Cynulliad Cenedlaethol i sicrhau bod deddfau o'r fath o'r safon uchaf bosibl.

"Er na ddaeth y Pwyllgor ar draws unrhyw anfodlonrwydd difrifol gyda pherfformiad y Cynulliad o ran treigl deddfwriaeth ar y cyfan, roedd gennym rai pryderon.

"Fel un siambr, mae'n hollbwysig bod gan y Cynulliad ddigon o amser a chyfle i ystyried yn fanwl ac ychwanegu gwerth at gyfraith arfaethedig, felly hoffem weld cyfnod adroddiad gorfodol, a hoffem dynnu sylw at bwysigrwydd craffu cyn deddfu.

"Mae hefyd yn hanfodol bod gan bobl y cyfle i lunio'r cyfreithiau hyn a gweld budd o'u cyfraniadau. Felly, mae cyfreithiau clir, cyfunol, sy'n seiliedig ar bolisi cadarn, a ystyriwyd yn drylwyr, yn hanfodol wrth i Gymru symud i gyfnod newydd o ddatganoli."

Adroddiad Deddfu yng Nghymru