Angen deddfu i ddiogelu celfyddydau a diwylliant Cymru, yn ôl adroddiad pwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 03/02/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Angen deddfu i ddiogelu celfyddydau a diwylliant Cymru, yn ôl adroddiad pwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol

3 Chwefror 2011

Mae adroddiad gan un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n galw am gyfraith newydd i sicrhau bod pobl ledled Cymru’n gallu cael mynediad at y celfyddydau a diwylliant yn eu hardaloedd lleol.

Argymhellwyd y gyfraith, neu Fesur, arfaethedig gan y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant trawsbleidiol, sy’n dymuno gweld dyletswydd statudol yn cael ei gosod ar awdurdodau lleol i gefnogi profiadau celfyddydol a diwylliannol.

Hoffai’r Pwyllgor weld llai o bwyslais ar ganolfannau a adeiladwyd i bwrpas a mwy o sylw a buddsoddiad yn cael eu rhoi i brosiectau cymunedol er mwyn cyrraedd cynulleidfa ehangach, yn enwedig pobl sydd ag anableddau neu grwpiau lleiafrifol.

Dywedodd Sandy Mewies AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae ein celfyddydau a’n diwylliant yn ein diffinio, yn mynegi’n hunaniaeth, yn ein hysbrydoli ac yn ein cyffroi. Maent yn elfen annatod o’r cysyniad hanesyddol o Gymreictod, ac yn hybu tyfiant economaidd a chynhwysiant cymunedol yn y Gymru fodern.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod gwerth profiadau celfyddydol a diwylliannol i hyrwyddo ystod eang o bolisïau ers cryn amser, gan gynnwys addysg, iechyd a diogelwch cymunedol, ac mae’r Llywodraeth wedi defnyddio arian cyhoeddus i gefnogi’r polisïau hyn.

“Fodd bynnag, mae’n fwy amlwg nag erioed bod rhaid i bob punt o gyllid cyhoeddus sicrhau’r buddion gorau posibl i bobl Cymru, ac rydym wedi clywed am lawer o esiamplau’n ddiweddar o theatrau a grwpiau celfyddydol sy’n wynebu toriadau yn eu cyllid neu sydd mewn perygl o orfod cau.

“Er gwaethaf y rhwystrau ariannol, credwn y gall arfer da gael ei fabwysiadu, gall y celfyddyau a diwylliant gael eu cynnal a gall mynediad gael ei wella i bawb ledled Cymru. Byddai’r Mesur arfaethedig yr ydym yn galw amdano yn helpu i sicrhau bod y pethau hyn yn digwydd.”