Angen dirwyon er mwyn torri rhestrau aros practisau orthodonteg yng Nghymru, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 17/02/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Angen dirwyon er mwyn torri rhestrau aros practisau orthodonteg yng Nghymru, yn ol un o bwyllgorau’r Cynulliad

17 Chwefror 2011

Yn ol adroddiad gan Bwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol trawsbleidiol y Cynulliad Cenedlaethol, dylai ymarferwyr deintyddol sy’n atgyfeirio cleifion ar restrau aros mwy nag un ymarferwr orthodonteg – yn y gobaith y cant eu gweld yn gynt – gael eu dirwyo.

Er bod rhestrau aros gofal orthodonteg yng Nghymru yn broblem, un canfyddiad a gafwyd yn yr adroddiad oedd nad oedd y ffigurau’n gywir oherwydd bod rhai deintyddion yn atgyfeirio cleifion i fwy nag un practis – neu’n eu hatgyfeirio cyn bod angen triniaeth arnynt hyd yn oed – er mwyn sicrhau eu bod ar restr.

Mae’r adroddiad yn galw am gyflwyno dirwyon i ymarferwyr sy’n gwneud atgyfeiriadau dyblyg neu amhriodol yn barhaus, er mwyn osgoi gorlwytho’r system.

Mae’n argymell bod Llywodraeth Cymru’n mynd i’r afael a’r materion hyn ac yn darparu cronfa o arian untro er mwyn clirio’r rhestr o gleifion sydd wrth gefn.

Mae’r adroddiad hefyd yn cwestiynu pa mor effeithiol yw Contract Deintyddol GIG presennol Llywodraeth Cymru, sy’n pennu cwota o weithgarwch mae’n rhaid i orthodeintyddion ymgymryd ag ef bob blwyddyn – gelwir hwy yn Unedau o Weithgarwch Orthodonteg.

Mae’n nodi bod y system yn aneffeithiol oherwydd, er bod cynnydd sylweddol wedi bod yn y galw, mae’r cwota wedi aros yr un peth ers 2006.

Drwy’r system hon, dangosodd yr adroddiad i ni, fod arian yn cael ei roi i bractisau lle nad oes llawer o driniaeth, neu dim triniaeth o gwbl, yn cael ei ddarparu a bod gwahanol bractisau yn cael eu talu ar gyfraddau gwahanol am yr un gwaith oherwydd bod yr arian yn seiliedig ar eu gweithgarwch hanesyddol.

Er mwyn mynd i’r afael a hyn, mae’r adroddiad yn galw am adolygiad o pa mor briodol yw’r Contract ac yn galw safoni’r arian.

Mae rhai o bryderon eraill y Pwyllgor yn cynnwys y diffyg ymarferwyr orthodonteg mewn ardaloedd gwledig, diffyg arbenigwyr orthodonteg ledled y Deyrnas Unedig ac ‘ailgylchu’ cleifion – lle caiff cleifion sydd wedi’u hatgyfeirio eu hail-asesu’n ddiangen.

Dywedodd Jonathan Morgan AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Gan fod un o bob tri phlentyn, a nifer cynyddol o oedolion, angen gofal orthodonteg, mae’n hanfodol bod y gwasanaethau hyn yn cael eu darparu’n effeithiol ac yn effeithlon.

“Dangosodd ein hymchwiliad ddiffygion difrifol yng Nghontract Deintyddol GIG presennol y Llywodraeth, gan gynnwys y system gwota aneffeithiol, y gwahaniaeth rhwng cyfraddau arian gwahanol bractisau, a’r niferoedd uchel o atgyfeiriadau amhriodol a chynnar.

“Pe gallem fynd i’r afael a’r materion hyn, byddai gwasanaethau’n rhededg yn fwy effeithiol, byddai amseroedd aros ar gyfer apwyntiadau cleifion newydd yn lleihau a byddai gan Gymru y capasiti digonol i fodloni’r gofynion am ofal orthodonteg.

“Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i roi sylw i’r argymhellion sydd yn ein hadroddiad, er mwyn i ofal orthodonteg yng Nghymru fod y gofal gorau posibl ar gyfer yr holl bobl sydd ei angen.”