Angen gwneud mwy i sicrhau bod y Gyfarwyddeb Ewropeaidd ar hawliau cleifion mewn gofal iechyd trawsffiniol yn ystyried gofal iechyd datganoledig yng Nghymru

Cyhoeddwyd 14/07/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Angen gwneud mwy i sicrhau bod y Gyfarwyddeb Ewropeaidd ar hawliau cleifion mewn gofal iechyd trawsffiniol yn ystyried gofal iechyd datganoledig yng Nghymru

Mae Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw am roi mwy o bwysau ar sefydliadau Ewropeaidd er mwyn sicrhau bod Cyfarwyddeb ddrafft ar hawliau cleifion mewn gofal iechyd trawsffiniol yn ystyried datganoli.

Mae Aelodau’n argymell bod Llywodraeth Cymru yn annog Llywodraeth y DU i gynnig gwelliant i’r Gyfarwyddeb ddrafft fel ei bod yn casglu data ynghylch llif cleifion ar lefel ranbarthol yn hytrach nag ar lefel Aelod-Wladwriaethau yn unig.

Mae’r Pwyllgor hefyd yn ceisio sicrwydd y cynhelir asesiad llawn o ran cydraddoldeb mewn perthynas â’r Gyfarwyddeb er mwyn sicrhau ei bod yn bodloni anghenion holl gleifion Cymru.

“Mae angen i’r Gyfarwyddeb wneud cyfeiriad penodol at systemau gofal iechyd datganoledig mewn nifer o Aelod-Wladwriaethau yn Ewrop,” meddai Sandy Mewies AC, Cadeirydd y Pwyllgor.

“Mae hyn yn berthnasol iawn yn y DU, lle mae gofal iechyd ar y cyfan yn fater datganoledig a reolir gan Gymru. Mae’r modd y caiff gwasanaethau gofal iechyd eu darparu yng Nghymru yn dra gwahanol i Loegr, er enghraifft, ac nid oes digon o wybodaeth ar gael ynghylch yr effaith bosibl ar y GIG yng Nghymru os bydd mwy o bobl yn penderfynu cael triniaeth dramor.

“Rydym yn bryderus yn benodol am gydraddoldeb o ran mynediad, sut mae cleifion yn cael gwybodaeth am ofal iechyd trawsffiniol, systemau gwneud iawn i gleifion os oes problemau’n codi, parhad y gofal i gleifion sy’n mynd i ran arall o’r DU am driniaeth, yn ogystal â’r effeithiau posibl y gall llif cleifion trawsffiniol ei gael ar systemau gofal iechyd.”

Heddiw, mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi adroddiad dros dro ar ei ymchwiliad i’r Gyfarwyddeb ddrafft ar hawliau cleifion mewn gofal iechyd trawsffiniol, er mwyn amlygu’r materion cychwynnol sydd o bwys i Gymru yn ystod y cam hwn o’r trafodaethau. Nid yw’r Gyfarwyddeb wedi ei mabwysiadu eto ac mae nifer o faterion sydd angen eu trafod ar lefel yr Aelod-Wladwriaethau. Llywodraeth y DU sy’n arwain ar y trafodaethau yn Ewrop ac, wrth gyflwyno adroddiad ar ei brif gasgliadau ac argymhellion nawr, mae’r Pwyllgor yn gobeithio y caiff ei safbwyntiau eu hystyried gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, y Comisiwn Ewropeaidd a Senedd Ewrop, cyn y caiff y Gyfarwyddeb ei mabwysiadu a’i throi’n gyfraith yng Nghymru.

Cliciwch i weld yr adroddiad