Cyhoeddwyd 04/10/2006
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014
Angen gwneud mwy o waith er mwyn gweithredu argymhellion y Pwyllgor Archwilio ar Golegau Cymru
Gwnaed cynnydd, ond mae angen gwneud mwy, er mwyn gweithredu argymhellion Pwyllgor Archwilio’r Cynulliad ar sut y mae colegau addysg bellach Cymru’n cael eu rheoli, yn ôl adroddiad newydd.
Mae’r Pwyllgor Archwilio yn cyhoeddi’r wybodaeth ddiweddaraf heddiw (dydd Mercher 4 Hydref) am reoli ystadau a chaffael yn y sector Addysg Bellach.
Mae’r adroddiad yn canfod bod y gost o sicrhau bod colegau yn cydymffurfio â deddfwriaeth gwahaniaethu ar sail anabledd wedi gostwng, ond mae’n parhau i fod yn £12.7 miliwn. Mae’r Pwyllgor felly’n argymell y dylai pob sefydliad, neu rai ohonynt, gael archwiliad newydd o fynediad ar gyfer pobl anabl, er mwyn profi cryfder y wybodaeth sydd ar gael am lefel a chost y gwaith y mae’n rhaid ei wneud er mwyn i’r sector gydymffurfio’n well â deddfwriaeth anabledd. Mae’r Pwyllgor hefyd yn argymell bod Llywodraeth y Cynulliad yn edrych ar y posibilrwydd o ddiogelu’r grant a ddarperir i golegau yn benodol ar gyfer gwaith yn ymwneud ag anabledd.
Bu’r angen i arbed arian trwy ddulliau caffael gwell ar agenda Llywodraeth y Cynulliad ers nifer o flynyddoedd. Mae’r adroddiad yn argymell bod angen i Lywodraeth y Cynulliad gael gwybodaeth gan bob sefydliad yn rheolaidd, ynghylch yr arbedion y mae’n ei wneud trwy arferion caffael gwell .
Dywedodd Janet Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio: “Mae’r Pwyllgor wedi mynegi pryder ynghylch methiant Llywodraeth y Cynulliad i sicrhau bod Colegau Addysg Bellach yn ateb gofynion deddfwriaeth gwahaniaethu ar sail anabledd ers 2003. Rwy’n siomedig bod gwerth dros £12 miliwn o waith yn parhau i fod heb ei gyflawni.”