Angen i'r Bil Cynllunio fod yn fwy democrataidd, yn ôl un o Bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddwyd 30/01/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/02/2015

Mae Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi canfod, er bod yna gefnogaeth eang ar gyfer diwygio'r system gynllunio yng Nghymru, ni ddylai'r broses hon fod yn un llai democrataidd er mwyn sicrhau mwy o gysondeb wrth wneud penderfyniadau cynllunio.

Cododd rhai rhanddeiliaid bryderon y bydd y Bil yn cymhlethu'r system a symud y pŵer i wneud penderfyniadau yn rhy bell i ffwrdd oddi wrth gymunedau a gwleidyddion lleol. 

Bydd y Bil yn rhoi pwerau eithaf eang i Weinidogion Cymru newid y ffyrdd y mae Awdurdodau Cynllunio Lleol yn gweithredu a newid rôl y Gweinidogion wrth iddynt wneud penderfyniadau cynllunio ar rai ceisiadau.

Fodd bynnag, nododd y cyfreithwyr a roddodd dystiolaeth bryder cyffredinol y gallai nifer o ddarpariaethau'r Bil, gyda'i gilydd, gyfyngu ar hawliau pobl i gael gwrandawiad ar ddatblygiad sy'n effeithio ar eu bywydau.

Mae rhai hefyd yn credu y bydd y Bil yn ei gwneud hyd yn oed yn anoddach cynnwys cymunedau lleol yn y broses o lunio'r cynllun, o ystyried yr haenau newydd o ran cynlluniau datblygu.

Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai'r Gweinidog gyflwyno gwelliant i'r Bil i roi statws cynllun datblygu ffurfiol i Gynlluniau Lleoedd a rhoi ystyriaeth bellach i sut y gellir cynnig cyfleoedd ychwanegol i gynnwys cymunedau lleol yn y broses o baratoi pob cynllun datblygu.

Mae'r Pwyllgor hefyd wedi argymell y dylai sefyllfa'r Gymraeg yn y system gynllunio gael ei chryfhau i sicrhau cydraddoldeb ag ystyriaethau eraill. Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai'r Gweinidog gyflwyno gwelliannau i osod gofyniad ar y rhai sy'n llunio cynlluniau i gynnal asesiad o effaith cynlluniau datblygu ar y Gymraeg a nodi bod y Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol mewn deddfwriaeth sylfaenol, ac y dylai Comisiynydd y Gymraeg gael rôl ffurfiol mewn asesu ansawdd yr asesiadau effaith ieithyddol ar gyfer cynlluniau datblygu a cheisiadau cynllunio mawr.

Dywedodd Alun Ffred Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd:

"Er bod cefnogaeth eang i wella effeithlonrwydd a chysondeb y system gynllunio yng Nghymru, mae'n bwysig nad yw'r diwygiadau hyn yn ei gwneud yn broses llai democrataidd."

"Drwy gydol yr adroddiad hwn, rydym wedi gwneud argymhellion sydd, ar y cyd, yn ceisio gwneud darpariaethau'r Bil hwn yn fwy democrataidd. Rydym ni'n credu y byddai gweithredu'r argymhellion hyn yn mynd i'r afael â phryderon y bydd y ddeddfwriaeth hon yn creu 'diffyg democrataidd', tra'n sicrhau bod effeithlonrwydd a chysondeb y system yn gwella".

Adroddiad Cyfnod 1 ar y Bil Cynllunio (Cymru)