Angen i’r Bil Rhentu Cartrefi fod yn gryfach mewn sawl maes allweddol yn ôl Pwyllgor

Cyhoeddwyd 26/06/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/07/2015

Mae Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi gwneud nifer o argymhellion sydd eu hangen, ym marn y Pwyllgor, i atgyfnerthu'r Bil Rhentu Cartrefi (Cymru).

Mae tua thraean o boblogaeth Cymru yn byw mewn llety rhent a bydd y newidiadau a gynigir yn y Bil yn effeithio ar bron pob un ohonynt a'u landlordiaid.

Un o brif amcanion y Bil yw dod â darnau o'r gyfraith bresennol ynghyd a'i moderneiddio. Er bod y Pwyllgor wedi croesawu hyn, mae'n teimlo y gallai'r Gweinidog fod wedi defnyddio'r Bil i wneud gwelliannau mwy sylweddol er lles pawb sy'n ymwneud â rhentu cartrefi yng Nghymru.

Mae'r Pwyllgor yn teimlo bod angen ystyried y rhan o'r Bil sy'n ymwneud â chyflwr eiddo rhent ymhellach. Mae'r Pwyllgor yn cefnogi nod y Gweinidog o wella cyflwr yr eiddo hwn i'r bobl sy'n byw ynddo, ond nid yw'n credu bod y prawf yn y Bil i benderfynu 'a yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi' yn ddigon i wella safon llety yn y sector rhent mewn ffordd ystyrlon.  Mae wedi galw ar y Gweinidog i ailystyried y meini perthnasol i'w defnyddio ar gyfer y prawf hwn. 

Mae'r Pwyllgor hefyd o'r farn fod y Bil yn dibynnu gormod ar y llysoedd i ddatrys anghydfodau, ac ni ddylai fod yn rhaid i denantiaid neu landlordiaid sydd am arfer eu hawliau fynd i'r llys fel unig opsiwn. Mae wedi argymell bod y Gweinidog yn gwneud darpariaeth amgen mwy hygyrch a hwylus er mwyn datrys anghydfodau o'r fath, a fyddai'n llai drud na gwrandawiad llys.   

Dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol:

"Rydym yn cefnogi nod y Gweinidog wrth gyflwyno'r Bil, ac rydym wedi argymell y dylai symud ymlaen i'r cyfnod nesaf o broses ystyried y Cynulliad.  Ond, rydym wedi nodi nifer o bryderon yn ein hadroddiad, ac rydym am i'r Gweinidog ystyried y rhain ymhellach.

"Un o gynigion y Bil yw galluogi pobl ifanc 16 neu 17 oed i fod yn ddeiliaid tenantiaeth. Ar hyn o bryd, dim ond pobl 18 oed a hŷn all wneud hynny. Rydym yn cymeradwyo nod y Gweinidog o helpu pobl ifanc i gael gafael ar eu llety eu hunain, ond yn ein barn ni, gallai fod yn amhosibl gweithredu'r cynigion hyn a gallent gael effeithiau anfwriadol. Er enghraifft, rydym yn pryderu y gallai fod yn anodd i bobl ifanc 16 a 17 oed drefnu contractau nwy a thrydan, yn ogystal â'r yswiriant perthnasol ar gyfer eu heiddo.

"Yn ein barn ni, dylai'r Gweinidog sicrhau mai dim ond landlordiaid cymunedol all gynnig tenantiaethau i bobl ifanc 16 a 17 oed. Rydym ni'n credu y byddai hynny'n sicrhau bod pobl ifanc a allai fod yn agored i niwed yn cael eu diogelu ac yn cael y lefel gywir o gymorth."

 Mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi ei adroddiad Cyfnod 1 a crynodeb o’i gasgliadau a’i argymhellion ar y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) (26 Mehefin 2015) (PDF, 1.39MB)