Angen newid chwyldroadol mewn diwylliant i annog mwy o bobl ifanc i astudio Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg

Cyhoeddwyd 26/09/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/06/2015

Mae angen newid chwyldroadol mewn diwylliant tuag at ganfyddiadau o Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) sy’n gadarnhaol a niwtral o ran rhyw, yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
 
Cynhaliodd y Pwyllgor Menter a Busnes ymchwiliad i’r ddarpariaeth o ran pynciau STEM mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru.
 
Canfu’r pwyllgor fod llawer o bobl ifanc yn parhau i beidio ag astudio pynciau STEM oherwydd problemau sylfaenol a grëwyd gan ystrydebau negyddol ynghylch disgyblaethau STEM.
 
Mae Aelodau wedi galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu ei buddsoddiad mewn ymyriadau cynnar sy’n ennyn brwdfrydedd plant am bynciau STEM ac yn eu paratoi ar gyfer yr economi wybodaeth fodern.
 
Dywedodd William Graham AC, Cadeirydd y Pwyllgor: "Mae sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg yn sail i’r economi wybodaeth, ac mae sgiliau digidol yn dod yn fwyfwy perthnasol i’n bywydau bob dydd.
 
"Felly, mae’r agenda STEM yn hollbwysig i Gymru, a bydd hyd yn oed yn bwysicach yn y dyfodol.
 
"Felly, mae angen i Gymru anelu at ragoriaeth mewn STEM drwy’r broses gyfan – o’r cwricwlwm a’r cymwysterau a gynigir mewn ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd, colegau a phrifysgolion, drwy gyngor gyrfaoedd a phrofiad gwaith ac i mewn i gyflogaeth ystyrlon a chynaliadwy.
 
"Mae llawer o’r problemau sylfaenol yn deillio o’r ffaith bod y canfyddiad cyffredin o’r disgyblaethau STEM yn parhau i fod yn eithaf gwael. Mae’r ystrydebau diwylliannol o wyddonwyr ‘geeky’ a ‘phynciau i fechgyn’ yn fyw ac iach, ac, yn anffodus, maent yn cael eu hymgorffori o oedran cynnar.
 
"Yn y bôn, rydym yn gweld yr angen am newid chwyldroadol mewn diwylliant tuag at ganfyddiadau o STEM sy’n gadarnhaol a niwtral o ran rhyw. Bydd angen y diwylliant cywir mewn ysgolion, ond hefyd o fewn teuluoedd a chymdeithas yn gyffredinol, i gyflawni hyn.
 
"Bydd gan y cyfryngau ran fawr i chwarae yn hynny o beth, ond mae gan Lywodraeth Cymru ran allweddol i’w chwarae hefyd."
 
Mae’r Pwyllgor wedi gwneud 14 o argymhellion i Lywodraeth Cymru yn ei adroddiad, sy’n cynnwys:
  • parhau i ddatblygu cynllun cydlynol ar gyfer hyrwyddo, monitro a gwerthuso prosiectau cyfoethogi STEM a wneir drwy ganolfannau’r Academi Wyddoniaeth Genedlaethol, a chynnwys yr Adran Addysg ac Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn y broses honno;
  • blaenoriaethu ei buddsoddiad mewn ymyriadau cynnar sy’n ennyn brwdfrydedd plant am bynciau STEM ac yn eu hysbrydoli drwy gydol eu haddysg, ond gan sicrhau bod yr ymyriadau hynny’n rhai hir dymor i Gymru gyfan;
  • ymateb yn gyflym i argymhellion adroddiad yr adolygiad TGCh i newid cyfrifiadureg yn y cwricwlwm fel y gall Cymru gynhyrchu’r technolegwyr a fydd eu hangen ar y diwydiant cyfrifiadurol yn y dyfodol;
  • targedu ymyriadau o flwyddyn 7 ymlaen, fel bod myfyrwyr yn cael cyngor gyrfa cywir a diduedd cyn y mae’n rhaid iddynt wneud dewisiadau pwnc hollbwysig, a sicrhau bod cyngor yn cael ei ddarparu yn bersonol yn ogystal ag ar-lein drwy wefan Gyrfa Cymru sydd wedi’i gwella’n sylweddol;
  • datblygu disgwyliad clir o’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i’r sector addysg uwch ei gyflawni o ran yr agenda STEM; ac
  • yn seiliedig ar arfer da profedig, targedu rhagor o ymyriadau yn gynnar i annog merched i gyrraedd eu potensial llawn mewn STEM, ond cynnal yr ymyriadau hynny dros yr hirdymor hyd nes y ceir cydbwysedd rhwng y rhywiau yn y pynciau hynny.
  •