Ar flaen y gad o ran safonau mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru - Yr Arglwydd Brif Ustus Judge i draddodi darlith gyntaf y Comisiynydd Safonau
5 July 2013
Bydd barnwr uchaf Prydain yn traddodi darlith gyntaf y Comisiynydd Safonau yn y Pierhead ar 16 Gorffennaf.
Bydd yr Arglwydd Brif Ustus Judge yn darlithio ar y thema "Y Cynulliad: Ar flaen y gad o ran safonau mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru".
Mae'r ddarlith gyntaf hon wedi cael ei hamseru i gyd-fynd â chyhoeddi adroddiad blynyddol Comisiynydd Safonau annibynnol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Gerard Elias QC.
Dywedodd Mr Elias: "Mae'n anrhydedd mawr i mi groesawu ffigwr blaenllaw o'r farnwriaeth i annerch cynulleidfa yn y Cynulliad.
"Mae'n gyfle unigryw i ni glywed ei farn ar faterion yn ymwneud â safonau mewn bywyd cyhoeddus.
"Byddaf yn cyhoeddi fy adroddiad blynyddol i gyd-fynd â darlith yr Arglwydd Brif Ustus, a fydd yn amlinellu'r gwaith a wnaed gennyf yn ystod y 12 mis diwethaf mewn perthynas â safonau yn y Cynulliad."
Bydd y digwyddiad yn dechrau am 4.30pm a gellir archebu lle drwy ffonio llinell archebu'r Cynulliad ar 0845 010 5500 neu drwy anfon e-bost at archebu@cymru.gov.uk