Arlywydd Estonia yn Annerch Aelodau’r Cynulliad
Bu Mr Toomas Hendrik Ilves, Arlywydd Gweriniaeth Estonia, yn annerch Aelodau’r Cynulliad Cenedlaethol ddydd Mercher, Hydref 15, yn ystod ei ymweliad â Chymru. Roedd yr Arlywydd yng Nghymru i ddathlu’r rhaglen gyfnewid ddiwylliannol rhwng Cymru ac Estonia, sy’n cynnwys arddangosfeydd celf, digwyddiadau llenyddol a chyngherddau gan Gôr Meibion Estonia.
Yn y llun mae’r Llywydd, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC a Phrif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan AC yn cyfarch yr Arlywydd wrth iddo gyrraedd y Senedd.