Arteffactau’r Pierhead yn ymddangos ar wefan History of the World y BBC

Cyhoeddwyd 06/09/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Arteffactau’r Pierhead yn ymddangos ar wefan History of the World y BBC

6 Medi 2010

Mae nifer o arteffactau hanesyddol sy’n cael eu harddangos yn y Pierhead bellach i’w gweld ar wefan History of the World y BBC. Yn eu plith mae’r binacl o’r SS Terra Nova – y binacl a arweiniodd Capten Scott a’i dîm   ar eu halldaith dyngedfennol o Gaerdydd i Begwn y De ym 1912. Daeth y binacl, sydd ar fenthyg gan Ymddiriedolaeth Capten Scott, yn ôl i Gaerdydd yn gynharach eleni wedi i’r Pierhead ailagor ar ei newydd wedd. Arteffact pwysig arall sy’n cael ei arddangos yw’r ddogfen Deddf Llywodraeth Cymru wreiddiol, wedi’i harwyddo gan Ei Mawrhydi y Frenhines ym 1998, a arweiniodd at sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Beibl Cymraeg, a gafodd ei argraffu yn Wrecsam yn ystod y 1800au cynnar, a bag doctor a oedd yn eiddo i’r meddyg teulu o’r Barri, Dr John Henry Williams ym 1928, wedi’u hychwanegu hefyd at wefan History of the World a sefydlwyd ar y cyd rhwng y BBC a’r Amgueddfa Brydeinig. Mae’r wefan yn cynnwys catalog o filoedd o wrthrychau hanesyddol ac eitemau diddorol o’r Deyrnas Unedig ac mae modd i ymwelwyr â’r wefan chwilio am arteffactau o’u hardal nhw. Dywedodd Gwen Thomas, Rheolwr Gwasanaethau Gwybodaeth i’r Cyhoedd ac i Ymwelwyr: “Mae’r arteffactau hyn, a’r Pierhead ei hun, yn helpu i ddangos rôl Cymru yn hanes y byd, ac rydym yn hynod falch o gael ychwanegu rhywfaint o’n casgliad o eitemau pwysig o Gymru at y wefan. “Rhan fach o’r hyn sydd gan y Pierhead i’w gynnig yw’r eitemau sydd i’w gweld ar-lein, a’r gobaith yw y bydd yn annog pobl i ymweld â’r adeilad eiconig hwn ac i weld beth arall sydd gennym i’w gynnig.” Ailagorodd y Pierhead ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni, ac o’r cychwyn cyntaf, roedd wedi’i gynllunio i fod yn lleoliad hyblyg, a oedd yn rhannu gwybodaeth ac yn cynnwys cyfres o arddangosiadau parhaol a digon o le i gynnal digwyddiadau cymunedol a diwylliannol eraill. Pierhead History of the World