Assembly business could be put at risk by failings in ICT contract

Cyhoeddwyd 13/09/2006   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Busnes y Cynulliad yn cael ei beryglu o bosibl gan ddiffygion yn y contract TGCh

Mae llwyddiant tymor hir y contract i ddarparu gwasanaethau TGCh a newid busnes ar gyfer y Cynulliad mewn perygl oherwydd natur anghyson y gwasanaeth a ddarperir gan y contractwyr, yn ôl adroddiad newydd gan Y Pwyllgor Archwilio. Mae’r adroddiad ar y contract Merlin, a gyhoeddir heddiw (Dydd Mercher, Medi 13) yn dweud bod y prosiect caffael wedi’i reoli’n dda, gydag atebolrwydd ac arweiniad amlwg. Fodd bynnag, roedd cyfarpar TG a theleffoni integredig a meddalwedd newydd i fod i gael eu darparu ar gyfer pob defnyddiwr cyn pen deunaw mis cyntaf y contract (gelwir hyn yn Brosiect Gweddnewid Merlin), ac mae cryn lithriant wedi bod: bellach ni chwblheir darparu’r cyfarpar newydd tan fis Medi 2006, bymtheg mis yn ddiweddarach na’r cynllun gwreiddiol.   Mae swyddogion Llywodraeth y Cynulliad yn cydnabod eu bod wrth drafod y prosiect gweddnewid wedi methu amcangyfrif perygl llithriant yn ddigonol. Mae’r Pwyllgor yn pryderu’n fawr fod hyn yn golygu bellach fod busnes y Cynulliad dan fygythiad. Yn ychwanegol at y llithriant hwn, nid yw safonau ‘r gwasanaeth TGCh wedi’u cyrraedd bob amser ac nid yw’r contract yn cwrdd ag anghenion Aelodau’r Cynulliad. Mae’r adroddiad yn argymell nifer o bethau i’w hystyried wrth gaffael yn y dyfodol ac wrth wella’r gwasanaeth a geir o dan y contract  Merlin.   Dywedodd Janet Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio: “Rydym yn fawr ein pryder nad yw safon y gwasanaeth TGCh hyd yma’n cyrraedd yr ansawdd uchel y mae gan ddefnyddwyr Merlin yr hawl i’w ddisgwyl.  Mae’r gwahanu rhwng Gwasanaeth Seneddol y Cynulliad a Llywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Ebrill 2007 yn rhoi cyfle i ddatblygu safonau gwasanaeth newydd fydd yn gymwys ar gyfer anghenion Aelodau’r Cynulliad a’u staff, ac mae hi’n bwysig  manteisio’n lawn ar y cyfle hwn.”