Assembly Committee to examine STEM skills in Wales

Cyhoeddwyd 04/10/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o bwyllgorau’r Cynulliad i edrych ar sgiliau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) yng Nghymru

4 Hydref 2010

Bydd ymchwiliad newydd gan Bwyllgor Menter a Dysgu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn edrych ar ddatblygiadau mewn sgiliau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.

Bydd yn asesu nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys pa mor ddigonol yw’r ddarpariaeth o’r pynciau hyn mewn ysgolion, addysg bellach ac addysg uwch, yn ogystal ag ariannu’r gwasanaethau hynny.

Bydd hefyd yn edrych ar y ddarpariaeth o weithwyr addysg proffesiynol sy’n gallu addysgu’r pynciau hynny ac a yw’r cyflenwad presennol o sgiliau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg yn diwallu anghenion y farchnad lafur yng Nghymru.

Y meysydd eraill a gaiff eu hystyried gan y Pwyllgor yw cynnydd Prif Gynghorwr Gwyddonol Llywodraeth Cymru a chynnydd yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol o ran hyrwyddo’r agenda gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.

Meddai Gareth Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Dysgu: “Mae’n hanfodol y gall Cymru gynhyrchu’r gweithlu medrus sydd ei angen ar gyfer llywio economi iach, gynaliadwy.

“Bydd yr ymchwiliad hwn yn canfod pa gyfleoedd a chymorth sydd ar gael ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg drwy ein sefydliadau addysgol a thrwy ddysgu seiliedig ar waith.

“Bydd hefyd yn ystyried sut y mae gwahanol fentrau a pholisiau strategol Llywodraeth Cymru yn cynnal yr agenda gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.

Gall unrhyw un sydd am gyflwyno tystiolaeth i’w hystyried gan y Pwyllgor Menter a Dysgu anfon e-bost at enterprise.learning.comm@wales.gov.uk neu ysgrifennu at Glerc y Pwyllgor Menter a Dysgu, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd CF99 1NA”

Pwyllgor Menter a Dysgu