Assembly marks 10th anniversary of devolution referendum

Cyhoeddwyd 14/09/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Cynulliad yn nodi 10fed pen-blwydd y refferendwm datganoli

Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n nodi deng mlynedd ers y refferendwm a arweiniodd at sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddydd Mawrth 18 Medi trwy ofyn barn y cyhoedd amdano. Caiff bwth fideo ei osod yn y Senedd lle gall ymwelwyr gofnodi eu barn am y Cynulliad, yr hyn y mae wedi ei gyflawni ers 1997 a’r hyn yr hoffent ei weld yn y dyfodol.  Wedyn caiff y fideos eu chwarae yn y Senedd er mwyn i ymwelwyr eraill eu gweld.                                        Ceir cyflwyniadau TG rhyngweithiol hefyd lle gall ymwelwyr ddysgu mwy am ddatganoli a datblygiad y Cynulliad, gan gynnwys y pwerau deddfu sylfaenol newydd a gafodd y Cynulliad ers yr etholiad ym mis Mai 2007 a rôl Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru a ddaeth yn ddau gorff ar wahân ar yr un pryd.    Dywedodd Llywydd y Cynulliad, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC: “Ddeng mlynedd yn ôl newidiodd canlyniadau’r refferendwm Gymru am byth a daeth yn achlysur pwysig iawn yn hanes gwleidyddol Cymru.  Mae’n anrhydedd i mi gael bod yn llywydd ar Gynulliad sydd wedi datblygu i fod yn gorff deddfu sylfaenol ddeng mlynedd wedi’r digwyddiad hwnnw ac mae’n bleser gen i fod yn dathlu’r pen-blwydd.  Edrychaf ymlaen at lawer mwy o ddathliadau pen-blwydd yn y dyfodol.”