Beicwyr y Cynulliad Cenedlaethol yn cwblhau taith drwy Gymru i godi arian

Cyhoeddwyd 20/08/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Beicwyr y Cynulliad Cenedlaethol yn cwblhau taith drwy Gymru i godi arian

20 Awst 2013

Mae tîm o staff o Gynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cwblhau taith feicio elusennol 250 milltir o hyd o swyddfa'r Cynulliad ym Mae Colwyn i'r Senedd yng Nghaerdydd.

Cychwynnodd yr 11 o feicwyr ddydd Gwener 16 Awst, gyda'r nod o gwblhau'r daith, ar hyd llwybr y Lôn Las yn bennaf, mewn pum niwrnod.

Hyd yma, codwyd dros £2000 i gefnogi Ymchwil Canser Cymru a hosbis blant Ty Hafan ym Mro Morgannwg.

Cafodd y tîm groeso cynnes iawn gan eu cydweithwyr ar risiau'r Senedd ar ddiwedd y daith.

Dywedodd Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad: “Hoffwn longyfarch pawb a fu'n cymryd rhan, am eu hymdrechion canmoladwy iawn i gwblhau taith oedd yn swnio'n ddigon heriol, yn enwedig o gofio'r tywydd garw a gafwyd dros y penwythnos.

“Mae'n fendigedig bod staff y Cynulliad yn barod i ymrwymo i ymdrechion glew i godi arian er budd achosion mor dda.”

Roedd Cestyll Caernarfon a Chriccieth, Gorsaf Bwer Trawsfynydd, yr Wyddfa, Cadair Idris a Phen y Fan ymysg y tirnodau yr aeth y tîm heibio iddynt.

“Rydym oll mor falch bod pob un ohonom wedi gorffen ac wedi rhagori ar ein targed o godi £2,000 ar gyfer Ymchwil Canser Cymru a Thy Hafan,” meddai Aled Elwyn Jones, sy’n hanu o Ddinbych yn wreiddiol ac sydd bellach yn gweithio i Gomisiwn y Cynulliad yn adran Ysgrifenyddiaeth y Siambr.

“Nid oedd y tywydd bob amser ar ei orau, ond gwnaethom lwyddo i godi calonau ein gilydd ar hyd y ffordd. Cafwyd ymdrech arbennig gan y tîm cyfan.”