Beth yw AEIS a sut mae’n effeithio arnoch chi?

Cyhoeddwyd 24/03/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/03/2019

Gall AEISau, neu Asesiadau Effaith Integredig Strategol, i roi eu henw llawn iddynt, effeithio ar bawb yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi AEISau ochr yn ochr â’i chyllidebau drafft i ddangos sut y bydd dyraniadau cyllid yn effeithio ar wasanaethau neu rannau penodol o gymdeithas.

Gall AEIS ddangos yr effaith y disgwylir i raglen benodol ynghylch iechyd ei chael ar bobl ifanc, neu sut y bydd arian sydd wedi’i neilltuo i raglen waith o fudd i bobl mewn ardaloedd tlotach.

Yn 2015-16, cyfunodd Llywodraeth Cymru nifer o wahanol fathau o asesiadau effaith mewn un asesiad. Mae AEIS yn asesu effaith penderfyniadau cyllidebol ar:

  • gydraddoldeb a hawliau dynol;

  • hawliau plant;

  • y Gymraeg;

  • newid hinsawdd;

  • prawfesur polisïau o safbwynt anghenion cefn gwlad;

  • iechyd;

  • bioamrywiaeth; a

  • datblygu economaidd.

Cafodd pryderon eu mynegi mewn blynyddoedd blaenorol ynghylch ansawdd a manylder asesiadau effaith, a dyma a ysgogodd ymchwiliad cydamserol gan dri o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol.

Ymhlith y pryderon oedd y gred, mewn rhai achosion, fod diffyg eglurder ynghylch yr hyn sydd wedi’i asesu. Hefyd, nid yw Llywodraeth Cymru ond yn cyhoeddi canlyniadau asesiadau effaith ac nid y casgliadau manwl sy’n deillio ohonynt.

Ceir pryderon pellach bod y broses bresennol yn rhoi’r cert o flaen y ceffyl, gyda ffactorau fel hawliau plant a chydraddoldeb yn ymddangos fel petasent yn cael eu defnyddio i gyfiawnhau gwariant, yn hytrach na dangos sut y dylanwadodd y ffactorau hynny ar y penderfyniadau a wnaed.

Edrychodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, a’r Pwyllgor Cyllid ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn cynllunio ar gyfer gwariant yn y dyfodol a’r ffordd y mae’n asesu effaith ei phenderfyniadau cyllidebol.

Daeth y pwyllgorau hyn i’r casgliad ar y cyd y dylai Llywodraeth Cymru fynd yn ôl at egwyddorion sylfaenol. Dylai’r ffocws fod ar ba ddull sydd fwyaf effeithiol, yn hytrach na pha elfen o’r asesiad sydd bwysicaf.

Cytunodd y pwyllgorau fod angen i Lywodraeth Cymru fod yn glir ynghylch pam y mae’n cynnal asesiad, pwy sy’n defnyddio’r asesiad hwn a’r hyn y mae’n gobeithio ei ddeall ohono.

Maent yn credu bod yn rhaid i asesiadau effaith lywio mewn modd ystyrlon y ffordd y caiff cyllid ei ddyrannu ac i ba feysydd er mwyn iddynt fod o unrhyw werth. Nid oedd y pwyllgorau’n credu bod digon o dystiolaeth bod hyn yn digwydd ar hyn o bryd.

Mae’r pwyllgorau hefyd am weld cofnod tryloyw o effeithiau negyddol, yn ogystal ag effeithiau cadarnhaol, dyraniadau o’r gyllideb, fel y gellir ystyried y darlun llawn. Gwnaethant ddweud bod gonestrwydd am y cyfaddawdau anodd sy’n rhaid eu gwneud yn hanfodol i ennyn hyder y cyhoedd yn y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud, yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni. 

Dywedodd Lynne Neagle AC, John Griffiths AC a Llyr Gruffydd AC, Cadeiryddion y pwyllgorau dan sylw:

“Yn y blynyddoedd diwethaf, mae pob un o’n pwyllgorau wedi bod â rhywbeth i’w ddweud am asesiadau o effaith y gyllideb. Roeddem yn teimlo bod yr amser wedi dod inni weithio gyda’n gilydd i ymchwilio i’r mater hwn ar y cyd, gyda ffocws penodol – o ystyried ein cylchoedd gwaith perthnasol – ar effaith penderfyniadau cyllidebol ar gydraddoldeb, plant a phobl ifanc.

“Credwn y dylid defnyddio AEISau i lywio gwaith a dylanwadu ar newidiadau. Ar hyn o bryd, rydym yn pryderu ei bod yn ymddangos eu bod yn cael eu defnyddio i adlewyrchu neu gyfiawnhau penderfyniadau sydd eisoes wedi’u gwneud.

“At hynny, rydym yn pryderu am yr hyn sy’n ymddangos yn duedd gynyddol i drosglwyddo cyfrifoldeb am asesiadau effaith at gyrff lleol fel byrddau iechyd neu awdurdodau lleol, lle nad oes sail ddeddfwriaethol ar gyfer gwneud hynny.

“Rydym yn cydnabod bod asesu effaith trafodaethau cyllidebol yn dipyn o gamp, ond er mwyn i asesiadau effaith gael unrhyw werth, rhaid iddynt lywio penderfyniadau ynghylch dyraniadau ariannol mewn modd ystyrlon – ar hyn o bryd, nid yw’n glir i ni eu bod yn llwyddo i wneud hynny.”

Bydd Llywodraeth Cymru yn trafod adroddiad y pwyllgorau maes o law.