Beth yw goblygiadau Cytundeb Ymadael drafft Brexit i bobl Cymru?

Cyhoeddwyd 29/11/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 29/11/2018

Rhaid i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ddweud wrth bobl Cymru beth fyddai effaith lawn bosibl y Cytundeb Ymadael â’r UE drafft, yn ôl Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad Cenedlaethol.

Mewn adroddiad newydd sy’n edrych ar y fargen a gafodd Theresa May AS, y Prif Weinidog, â’r UE, mae’r Pwyllgor yn nodi’r goblygiadau posibl o ran saith maes allweddol, gan gynnwys economi a masnach â’r UE, porthladdoedd a thrafnidiaeth, amaethyddiaeth, bwyd a physgodfeydd, a gofal iechyd.

Gan adeiladu ar ei waith blaenorol, mae’r Pwyllgor wedi darparu’r asesiad diweddaraf  o’r sectorau.  Gofynnodd hefyd i Dr Tobias Lock, arbenigwr ar gyfraith yr UE o Brifysgol Caeredin, i edrych yn fanwl ar oblygiadau cyfreithiol y cytundeb.

Daeth Dr Lock i’r casgliad:

“mae union fanylion y berthynas yn y dyfodol yn parhau’n aneglur i raddau helaeth […] ymddengys yn amlwg bod y ddwy ochr am sicrhau perthynas uchelgeisiol o ran masnach ac o ran diogelwch, ond nad ydynt am i’r DU aros yn rhan o farchnad sengl yr UE”.

Aeth Dr Lock ymlaen i ddweud, o ran masnachu, y byddai’r berthynas yn y dyfodol yn debygol o ymdebygu i’r berthynas â Chanada neu’r Wcrain, yn hytrach na’r berthynas â Norwy.

Daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i roi darlun llawn o realiti’r dyfodol gyda’r fargen bresennol sydd ar gael, gyda dim bargen, neu hyd yn oed o aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’n galw ar Lywodraeth y DU, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru cyhyd ag y mae ei hasesiad yn ymwneud â Chymru, i gyhoeddi asesiad llawn o effaith Brexit ar delerau’r Cytundeb Ymadael drafft.

Dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: "Wrth i ddiwrnod Brexit agosáu, rydym yn dal i chwilio am yr eglurder a’r sicrwydd y mae ei angen ar bobl i gynllunio ar gyfer y dyfodol".

"Mae arnom angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fod yn agored a gonest am y gwahanol sefyllfaoedd a’r effeithiau posibl ar bobl Cymru, p’un a yw Llywodraeth y DU yn cytuno ar fargen y Prif Weinidog, y byddwn yn wynebu sefyllfa o ddim bargen neu hyd yn oed os ydym yn aros fel yr ydym.

"Nid ein barn a’n casgliadau pendant ni yw’r hyn a gyflwynir yn yr adroddiad hwn, ond dadansoddiad ar sail y dystiolaeth a gasglwyd gennym yn ystod ein gwaith hyd yma ar draws sectorau allweddol yn economi a chymdeithas Cymru.

"Gobeithiwn y bydd hyn yn llywio barn Aelodau’r Cynulliad cyn y drafodaeth a’r bleidlais yn y Cyfarfod Llawn."

Bydd yr Aelodau’n cymryd rhan mewn dadl a phleidlais a drefnwyd ar gyfer dydd Mawrth 4 Rhagfyr yn y Senedd. Er nad yw’n bleidlais rwymol, mae barn y Cynulliad yn arwyddocaol gan y bydd iddi bwys yn y dadleuon sydd i ddod yn Senedd y DU a Senedd Ewrop.

Bydd Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad yn parhau i asesu’r risgiau a chyfleoedd sy’n deillio o unrhyw senario Brexit er mwyn llywio’r drafodaeth barhaus a gwneud yr hyn y gall ei wneud i sicrhau bod Cymru’n barod ar gyfer pa un bynnag o’r sefyllfaoedd hyn sy’n digwydd.

Bydd y trafodion yn cael eu ffrydio’n fyw ar Senedd TV ac ar gael i’w gweld ar-alw wedi hynny. Gall pobl hefyd wylio’r ddadl o’r oriel gyhoeddus. Dylai unrhyw un sydd am fynd i’r cyfarfod gysylltu â llinell archebu’r Cynulliad ar 0300 200 6565, neu anfon neges e-bost at cysylltu@cynulliad.cymru.

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Y Cytundeb Ymadael: Goblygiadau i Gymru (PDF, 8 MB)