Blaenoriaethau amgylcheddol ar gyfer y Cynulliad nesaf

Cyhoeddwyd 16/03/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/03/2016

Mae Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad Cenedlaethol wedi pennu'r blaenoriaethau amgylcheddol, amaethyddol a morol y mae'n credu y dylai'r Cynulliad nesaf fynd i'r afael â nhw.

Cynhaliodd y Pwyllgor gyfres o ddigwyddiadau lle roedd yn gwahodd pobl i fyfyrio ar y cynnydd a wnaed mewn amrywiaeth o feysydd polisi dros y pum mlynedd diwethaf, ac i flaenoriaethu materion sydd i'w hystyried yn ystod y Cynulliad nesaf.

Clywodd yr Aelodau gan randdeiliaid yn gyson mai un o'r prif bethau y maen nhw'n ansicr amdano yw'r berthynas rhwng tair cyfraith a basiwyd gan y Pedwerydd Cynulliad, sef y Ddeddf Cynllunio, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru a Deddf yr Amgylchedd.

Picture of a Beach and the Sea 

Mae rhanddeiliaid am wybod sut y caiff y deddfau hyn eu cyflwyno ar lawr gwlad ac maen nhw am weld dull cyson a chydgysylltiedig o gyflwyno'r ystod o gynlluniau, polisïau, datganiadau, dangosyddion ac adroddiadau a gaiff eu creu gan y cyfreithiau hyn, gan fod y rheini yn hanfodol, yn ôl pob golwg, er mwyn cyflawni'r amcanion polisi y mae'r deddfau i fod i'w cefnogi. 

"Yn hytrach nag edrych yn ôl ar ein gwaith, gwnaethom benderfynu gofyn i'n rhanddeiliaid am y cynnydd sydd wedi ei wneud yng Nghymru dros y pum mlynedd diwethaf ac, yn bwysicach fyth, beth yw'r heriau a'r cyfleoedd sydd o'n blaen yn eu barn nhw," meddai Alun Ffred Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd.

"Efallai mai'r peth amlycaf oedd y lefel gyffredinol o ansicrwydd am sut y bydd y cyfuniad cymhleth o ddeddfwriaeth a basiwyd yn ystod y Cynulliad hwn yn cael ei roi ar waith a beth fydd effaith y ddeddfwriaeth hon." 

Roedd y rhanddeiliaid yn gyffredinol fodlon ar y cynnydd a wnaed yng Nghymru dros y pum mlynedd diwethaf o ran gwastraff trefol ac ailgylchu,  a hynny yn rhannol am fod Llywodraeth Cymru wedi defnyddio dull polisi cyson yn hyn o beth.

Mae'r gwaith o barhau i ganolbwyntio ar weithredu'r Polisi Amaethyddol Cyffredin ('PAC') yng Nghymru gan ddechrau paratoi, ar yr un pryd, ar gyfer y PAC nesaf wedi'i nodi fel un o'r ystyriaethau pwysig ar gyfer pwyllgor y Cynulliad yn y dyfodol wrth iddo lunio ei raglen waith.

Er bod cynnydd wedi ei wneud, nid yw argymhellion adroddiad y Pwyllgor ar Bolisi Morol yng Nghymru wedi'u cyflawni'n gyfan gwbl. Mae pryder nad yw Llywodraeth Cymru yn rhoi'r flaenoriaeth angenrheidiol i bolisi morol ac mae'r syniad ei fod yn ystyriaeth eilaidd yn parhau. 

O ran cynhyrchu ynni a symud at ynni mwy adnewyddadwy yn y dyfodol, mae'r Pwyllgor wedi rhyddhau sawl adroddiad gan gynnwys, Dyfodol Ynni Craffach i Gymru, yn ddiweddar, a oedd yn trafod materion fel darparwyr ynni dielw a phrosiectau ynni sy'n cael eu harwain gan awdurdodau lleol a chymunedau.

 

Dywedodd Alun Ffred:
"Rydym wedi nodi'n glir mai mynd i'r afael â newid hinsawdd yw'r broblem fwyaf sylweddol sy'n wynebu Cymru yn ein barn ni, a bod angen asesu pob ystyriaeth arall o ran polisi yn y cyd-destun hwnnw.

"Mae Cymru wedi creu fframwaith cyfreithiol i fynd i'r afael â hyn, ac wedi pennu targedau ar gyfer lleihau allyriadau  nwyon tŷ gwydr.

"Bydd angen i bwyllgor y dyfodol sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud yn erbyn y targedau hyn a bod y fframwaith yn cael ei weithredu'n effeithiol ym mhob maes polisi.

"Mae ein hadroddiad, Dyfodol Ynni Craffach i Gymru, yn nodi rhagor o flaenoriaethau o ran ynni a thai. Dylai pwyllgor y dyfodol ystyried Dyfodol Ynni Craffach i Gymru ochr yn ochr â'r adroddiad etifeddiaeth hwn wrth benderfynnu ar ei raglen waith."

Mae'r Pwyllgor yn trafod wyth prif thema yn ei adroddiad etifeddiaeth, gan nodi blaenoriaethau ar gyfer pob un.

Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd.